Skip to content

Cacen Afal Menyn gan Nadiya Hussain

Dw i wrth fy modd gyda'r afalau yn y gacen yma, a'r crwst llawn menyn a siwgr ar dop y gacen hefyd.

Rysáit gan Nadiya Hussain

Dyma un o’r cacennau cyntaf i mi erioed ei wneud. Dydw i ddim yn cofio ble gwelais i’r rysáit, hen lyfr coginio efallai, neu doriad o gylchgrawn, ond rydw i wedi bod eisiau ei ail-greu ers blynyddoedd ac felly fe wnes i o’r diwedd.  Dw i wrth fy modd gyda’r afalau yn y gacen yma, a’r crwst llawn menyn a siwgr ar dop y gacen hefyd.  Does byth modd cael un darn yn unig.

Cynhwysion

Digon 8

Stars gif transparent background

Ar gyfer y gacen

  • 125g menyn di-halen, wedi’i meddalu
  • 125g siwgr mân
  • 2 ŵy maint canolig
  • 125g blawd codi, wedi’i hidlo
  • 1 llwy de o nytmeg
  • 2 afalau gwyrdd maint canolig, wedi’u plicio a’u deisio’n giwbiau 1cm
  • 50g siwgr mân
Ar gyfer y topin menyn
  • 60g menyn di-halen, wedi’i meddalu
  • 60g siwgr mân pinsiad o halen
  • siwgr eisin, i’w ysgeintio
I’w weini
  • hufen tolch

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn i 180°C ffan. Irwch waelod ac ochrau tun cacen 23cm a’i leinio â phapur pobi.
  2. Rhowch y menyn meddal mewn powlen gymysgu gyda’r siwgr mân, wyau, blawd a nytmeg. Cymysgwch bopeth ar gyflymder uchel am 2 funud, nes bod y cymysgedd yn ysgafn.
  3. Arllwyswch y cymysgedd i’r tun a lefelwch y top. Ysgeintiwch y ciwbiau afal dros y cymysgedd, ysgeintiwch y siwgr dros y cwbl, a’i phobi am 25 munud.
  4. I wneud y topin menyn, rhowch y menyn di-halen wedi’i doddi a’r siwgr mân mewn powlen gyda’r halen, a chymysgu’r cwbl yn dda iawn.
  5. Ar ôl i’r gacen gael 25 munud yn y popty, tynnwch hi allan, arllwyswch y cymysgedd menyn-siwgr drosti a’i phobi am 10–15 munud arall.
  6. Gadewch y gacen i oeri yn y tun am 20 munud, yna tynnwch hi allan a’i adael i oeri ar silff oeri.
  7. Ysgeintiwch siwgr eisin drosti a’i weini gyda hufen tolch.