Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Mae’r Cinio Mawr a’r Help Llaw Mawr yn ymuno ar 5-8 Mehefin am benwythnos o gyfeillgarwch, bwyd, hwyl a gweithredu – ac mae gwahoddiad i bawb!
Mae’n un digwyddiad mawr – cyfle i gwrdd, bwyta a rhoi help llaw yn lleol yn nathliad cymunedol mwyaf y DU.
Mawr neu fach, chi sydd i benderfynu beth wnewch chi – barbeciw gyda’r cymdogion, casglu sbwriel yn lleol neu helpu achos da am y diwrnod – gallwn ni i gyd wneud rhywbeth!
Mae’n hawdd, mae’n hwyl ac mae i bawb – felly beth fyddwch chi’n ei wneud?
Cynllunio eich digwyddiad Mynnwch eich adnoddau am ddim

Un digwyddiad mawr
Dwy fenter gymunedol anhygoel, yn dod at ei gilydd ar gyfer un penwythnos mawr o gyfeillgarwch, bwyd, hwyl a gweithredu ar 5-8 Mehefin 2026.
Dyma yw diben hyn.

Y Cinio Mawr
Wedi’i gynnal yn flynyddol ers 2009, Y Cinio Mawr yw dathliad blynyddol y DU ar gyfer cymdogion a chymunedau lle mae miliynau o bobl yn dod ynghyd i rannu cyfeillgarwch, bwyd a hwyl ar benwythnos cyntaf mis Mehefin. Cymerodd dros 10 miliwn o bobl ran yn 2025 yn unig!
Yr Help Llaw Mawr
Dechreuodd yr Help Llaw Mawr yn 2023, gan annog pobl i roi cynnig ar wirfoddoli, rhoi help llaw a gwneud gwahaniaeth. Cymerodd miliynau o bobl ran yn 2023 ac eto yn 2024, wrth i elusennau gynnig cyfleoedd syml i bobl ddysgu mwy a gweld sut beth oedd gwirfoddoli.
Rhoi help llaw yn eich ardal chi Mwy o ffyrdd o roi help llaw
Cynllunio eich digwyddiad
Popeth sydd ei angen arnoch i wneud eich digwyddiad yn realiti!
Ar gyfer sefydliadau
Digwyddiadau sydd i ddod
Ychwanegwch eich digwyddiad at ein map (EN)
Os yw’ch digwyddiad yn un cyhoeddus, mae’n ffordd wych o ledaenu’r gair!
Rhoi help llaw yn eich ardal chi
Rhoi help llaw yn eich ardal chi
Mawr neu fach, mae pob gweithred yn cyfrif
Gwahoddir pawb i ymuno drwy wneud rhywbeth cadarnhaol, ym mha bynnag ffordd sy’n gweithio orau i chi a’ch cymuned.
Os ydych chi’n awyddus i ddechrau arni, porwch ein syniadau ac adnoddau i’ch helpu i wireddu’ch prosiect. Mae gennym ni bopeth sydd ei angen arnoch i ddechrau arni!
Ar gyfer sefydliadau
P’un a ydych chi’n ysgol, elusen, busnes, cyngor, cymdeithas dai neu grŵp cymunedol, mae cymaint o fanteision i gymryd rhan a chefnogi pobl i wneud rhywbeth cadarnhaol yn lleol
Rhoi help llaw lle rydych chi’n byw
Eisiau dod o hyd i rywbeth i’w wneud yn agos atoch chi? Chwiliwch GoVo i ddod o hyd i ffyrdd o roi help llaw a chefnogi achosion gwych lle rydych chi’n byw – mae rhywbeth i bawb! Rhowch eich cod post neu’r hyn sydd o ddiddordeb i chi isod.
Gwneud pob digwyddiad yn bosibl
Dim ond oherwydd haelioni parhaus ein harianwyr y mae ein hymgyrch yn bosibl.
Ni yw’r Eden Project
Elusen addysgol a menter gymdeithasol yw Eden Project.
Rydym yn archwilio sut y gall pobl weithio gyda’i gilydd – a gyda natur – tuag at ddyfodol gwell.
Cawn ein hysbrydoli gan y gred bod pobl yn fwy nag abl i newid pethau er gwell, a thrwy greu Eden rydym wedi dysgu beth all dyfeisgarwch, ymarferoldeb, gobaith a phenderfyniad ei wneud.
Stori Emma
Mae Emma yn arwain Love Barrow Libraries, prosiect arloesol sy’n darparu cyfleoedd gwirfoddoli i bobl sy’n profi unigrwydd ac arwahanrwydd. Ar ôl cael eu hymsefydlu, gwahoddir pobl i helpu i gynnal sesiynau fel Caffi Cyfeillgarwch, lle gall ymwelwyr ddod i fwynhau ychydig o gwmni a phaned o de.
Trefnodd Emma ei Chinio Mawr cyntaf yn 2024, gan anrhydeddu tîm gwirfoddolwyr y llyfrgell, gyda thystysgrif arbennig yn cael ei gyflwyno iddynt yn dathlu’r cyfraniad maen nhw wedi’i wneud i’r gymuned.