Y digwyddiad mawr ar gyfer sefydliadau
Mae’r Cinio Mawr, y dathliad blynyddol i gymdogion a chymunedau, yn ymuno â’r Help Llaw Mawr i annog hyd yn oed mwy o bobl i weithredu a gwneud rhywbeth lle maen nhw’n byw ar 5 – 8 Mehefin. Mae’n ddigwyddiad mawr – penwythnos o gyfeillgarwch, bwyd, hwyl a gweithredu.
P’un a ydych chi’n ysgol, elusen, busnes, cyngor, cymdeithas dai neu grŵp cymunedol, mae cymaint o fanteision i gymryd rhan a chreu newid cadarnhaol yn eich cymuned.

Mae cymryd rhan yn hawdd
- Cefnogi a hyrwyddo’r ymgyrch
- Hysbysebu digwyddiadau a chyfleoedd gwirfoddoli
- Trefnu eich digwyddiad eich hun
Digwyddiadau sydd i ddod
How to add your events to GoVo
Join the Royal Voluntary Service for an introduction to GoVo and how to use it. Multiple dates and times available.
Raise awareness, recruit helpers or fundraise for your community project with a big do
This session is for anyone running or involved in local community groups, projects, clubs or charities, looking to know more…
Sut i gymryd rhan
P’un a ydych chi’n gobeithio cynnal eich digwyddiad eich hun neu annog pobl i roi help llaw – mae gennym ni wybodaeth ar gyfer gwahanol fathau o sefydliadau isod.
Dyma sut olwg allai fod ar gymryd rhan i chi:
- Lledaenu’r gair am yr ymgyrch ar eich sianeli
- Rhestru eich cyfleoedd gwirfoddoli ar GoVo
- Cynnal Cinio Mawr i ddathlu eich gwirfoddolwyr
- Cynnal digwyddiad blasu i helpu pobl i ddarganfod mwy am eich achos
- Helpu trigolion eich cymdeithas dai i gynnal eu digwyddiad eu hunain
- Annog eich gweithwyr i wneud rhywfaint o ddaioni gyda diwrnod gwirfoddoli ar y cyd
- Dod â’ch cymuned ysgol neu waith at ei gilydd i rannu cacennau a sgwrsio
Ysgolion (EN)
Cael eich disgyblion i gymryd rhan mewn digwyddiad i bawb
Cynghorau a chymdeithasau tai (EN)
Sut allwch chi gefnogi preswylwyr i gynnal digwyddiad
Busnesau, elusennau a grwpiau cymunedol (EN)
Dod â phobl at ei gilydd ar gyfer eich digwyddiad eich hun
Y Cinio Mawr a’r Help Llaw Mawr
Darganfyddwch beth sy’n digwydd
Ychwanegu cyfleoedd at GoVo
Ychwanegwch eich digwyddiad neu gyfle at GoVo a’i dagio gyda Yr Help Llaw Mawr/The Big Help Out i ledaenu’r gair a chael pobl i gymryd rhan.
Os nad ydych chi wedi defnyddio’r platfform o’r blaen, bydd angen i chi greu a gwirio cyfrif cyn uwchlwytho’ch cyfleoedd.
Cynnal digwyddiad blasu

Mae cynnal digwyddiad blasu yn ffordd wych o helpu pobl i ddarganfod mwy am yr hyn y mae eich elusen neu sefydliad yn ei wneud.
Meddyliwch am sut i’w wneud yn hwyl a rhoi cyfle i bobl gysylltu a sgwrsio ag eraill. Beth am:
- tasg gymunedol – plannu bylbiau, creu baner, plicio llysiau
- ras hwyl â thema
- gêm neu weithgaredd i gychwyn sgwrs am eich achos
Mae cael pobl i mewn drwy’r drws i helpu gyda rhywbeth syml a hawdd yn aml yn ddechrau rhywbeth mwy.
Pam cymryd rhan?

- Drwy gefnogi a galluogi pobl i ddod at ei gilydd i rannu bwyd neu roi help llaw, rydych chi’n helpu i leihau unigrwydd a chreu ymdeimlad cynyddol o berthyn.
- Rydyn ni’n gwybod mai pobl sy’n rhoi o’u hamser er lles y cyhoedd sy’n gwneud i’n cymunedau deimlo’n fwy unedig. Mae gwneud daioni yn gwneud i bobl deimlo’n dda, ac yn helpu i gefnogi pobl a lleoedd sydd ei angen.
- Pan ddaw’r pethau hyn at ei gilydd, rydym yn gweld newidiadau cadarnhaol mawr mewn cymunedau. Rydym yn gweld pobl o wahanol gefndiroedd yn dod at ei gilydd fel ffrindiau, llai o droseddu, llai o densiynau a gwell gwydnwch cymunedol i’r heriau sy’n ein hwynebu – o’r argyfwng hinsawdd i amddifadedd cymdeithasol.
Gweithio gyda phartneriaid ledled y DU
Mae penwythnos y Cinio Mawr a’r Help Llaw Mawr yn cael ei arwain gan elusen yr Eden Project ac yn cael ei wneud yn bosibl gyda chefnogaeth gan Sefydliad Pears, Llywodraeth y DU a’r Co-op.
Fe’i cefnogir gan elusennau o bob cwr o’r DU gan gynnwys Cŵn Tywys, RSPCA, Barnardos, RNLI, Cyngor ar Bopeth, y Samariaid a llawer, llawer mwy.
Cadwch mewn cysylltiad
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr a chadwch mewn cysylltiad â’r holl ffyrdd y gallwch gymryd rhan – a beth sydd ynddo i chi.
Gwneud pob digwyddiad yn bosibl
Dim ond oherwydd haelioni parhaus ein harianwyr y mae ein hymgyrch yn bosibl.
Y Cinio Mawr a’r Help Llaw Mawr
Dathliad cymunedol mwyaf y DU – un digwyddiad mawr!
Cynllunio eich digwyddiad
Popeth sydd ei angen arnoch i wneud eich digwyddiad yn realiti!
Ynglŷn â’r Eden Project (EN)
Rydym yn dangos ac yn ysbrydoli gweithredu cadarnhaol ar gyfer y blaned.
Upload your opportunities to GoVo (EN)
Ychwanegwch eich digwyddiadau a’ch cyfleoedd i gael pobl i gymryd rhan.