Cacen Ffrwythau Haf, Menyn wedi’i frownio ac Almonau


Rysáit gan Rosie Kellett
“Mae’r gacen hon yn berffaith ar gyfer yr haf: mae’n ludiog, yn jam i gyd, yn ffres a ddim yn rhy felys. Mae’r menyn wedi’i frownio a’r almonau mâl yn rhoi blas cnau hyfryd iddi ac mae’n hynod flasus gyda llwyaid o crème fraîche ar ddiwrnod cynnes o haf.”
Cynhwysion
Digon am 8 sleis mawr
- 250g menyn di-halen
- 370g siwgr eisin, wedi’i hidlo
- 200g almonau mâl
- 80g blawd plaen
- pinsiad o halen môr
- 220g o wyn wy (cadwch y melynwy ar gyfer tiramisu!)
- 3 lwy de o enllyn fanila
- 100g o fwyar
- 1 eirin gwlanog aeddfed, wedi’i sleisio’n hanner lleuadau (mae rhai mewn tun hefyd yn gweithio’n dda)
- crème fraîche, i weini
Dull
Cam 1
Cynheswch y ffwrn i 170°C/150°C ffan/nwy 3. Irwch a leiniwch dun crwn 21cm.
Cam 2
Toddwch y menyn mewn sosban dros wres canolig-uchel a pharhewch i goginio nes ei fod yn dechrau brownio, gan droelli’r badell a chadw llygad arno fel nad yw’n troi o frown i wedi llosgi. Unwaith y bydd solidau’r llaeth wedi mynd yn frown cneuog, tynnwch y badell oddi ar y gwres a’i gadael i oeri.
Cam 3
Chwisgiwch y siwgr eisin, yr almonau mâl, y blawd plaen a’r halen mewn powlen fawr.
Cam 4
Ychwanegwch y gwynwy a’r fanila a’u cymysgu nes eu bod wedi’u cyfuno, yna ychwanegwch y menyn brown wedi’i oeri a chymysgwch eto.
Cam 5
Arllwyswch y cytew i’r tun a rhowch y tun yn yr oergell am 15 munud nes bod y cytew wedi caledu ychydig.
Cam 6
Ysgeintiwch y ffrwythau ar ei ben, gan wasgu’r mwyar a’r sleisys o eirin gwlanog hanner ffordd i mewn i’r cytew.
Cam 7
Pobwch am 1 awr a 15 munud, gan ei orchuddio’n llac â ffoil ar ôl 50 munud fel nad yw’n brownio gormod ar y top.
Cam 8
Gadewch i’r gacen oeri’n llwyr yn y tun, yna gweinwch gyda llwch ysgafn o siwgr eisin a llwyaid o crème fraîche.