Chwrliadau ffilo ffeta a sbigoglys
Os ydych chi erioed wedi bod i Wlad Groeg mae'n debyg eich bod wedi rhoi cynnig ar spanakopita, a'r chwyrliadau hyn yw fy fersiwn i ohono.
Rysáit gan The Batch Lady
Cydiwch mewn tun o biwrî sbigoglys wedi’i goginio o eil bwyd y byd yn eich archfarchnad leol, neu defnyddiwch sbigoglys wedi’i rewi wedi’i dorri’n fân, a rhowch gynnig ar y chwyrliadau cawslyd, crensiog hyn!
AWGRYM: Gweinwch gyda salad ochr hyfryd ac ychydig tzatziki.
Cynhwysion
Yn gwneud: 8
- 800g piwrî sbigoglys tun, neu 30 ciwb o sbigoglys wedi’i rewi wedi’i dorri’n fras (tua 800g), wedi’i ddadmer
- llond llaw mawr o bersli ffres, wedi’i dorri’n fân
- llond llaw mawr o dil ffres, wedi’i dorri’n fân
- 200g o gaws feta, wedi’i dorri’n ddarnau bach
- 1 ŵy, wedi’i guro
- 1 llwy de o halen
- digonedd o bupur du
- 1 pecyn o grwst ffilo (bydd angen 8 dalen arnoch)
- 3 llwy fwrdd o olew olewydd
Dull
1)
Rhowch y sbigoglys mewn lliain sychu llestri glân a gwasgwch allan gymaint o hylif ag y gallwch.
2)
Rhowch y sbigoglys wedi’i ddraenio mewn powlen gymysgu gyda’r persli, dil, ffeta a’r ŵy. Ychwanegwch halen a phupur a chymysgwch yn dda.
3)
Rhowch un ddalen o grwst ffilo ar eich arwyneb gwaith a brwsiwch y cyfan gydag olew olewydd. Cadwch y dalennau eraill o ffilo o dan liain sychu llestri llaith i’w hatal rhag sychu allan.
4)
Ychwanegwch 1/8 o’r llenwad mewn llinell ar hyd gwaelod y ddalen filo, ychydig i mewn o’r ymyl, yna rholiwch y crwst yn llac i greu siâp selsig hir. Rholiwch ef o amgylch yn ofalus i greu chwyrlïad, gan wneud yn siŵr i beidio â’i rolio’n rhy dynn, neu fe allai’r crwst dorri. Brwsiwch y chwyrlïad gyda digon o olew olewydd. Ailadroddwch y broses i wneud y 7 chwyrlïad arall.
5)
Cynheswch y ffwrn i 180°C. Rhowch y chwyrliadau ar silff bobi wedi’i leinio a’i goginio am 20-22 munud, nes eu bod yn euraidd.
6)
Ar gyfer ffrïwyr aer, cynheswch y ffrïwr aer i 180°C. Rhowch y chwyrliadau ar bapur pobi a’u coginio am 12 munud, gan eu troi drosodd hanner ffordd drwodd, nes eu bod yn euraidd.