Skip to content

Pysgod hallt a reis

Perffaith ar gyfer grwpiau mawr, rhowch gynnig ar y rysáit hwn ar gyfer pysgod hallt. Gellir ei gynyddu yn dibynnu ar nifer eich gwesteion!

Clarice and Audrey with their pans of delicious-looking food at an outdoor event

Mae Clarice ac Audrey o’r grŵp cymunedol dielw bendigedig, Exercise for Everyone wedi bod yn ddigon caredig i rannu’r rysáit hwn. Ffodd Clarice rhag ansefydlogrwydd a helbul ei thref enedigol, Camerŵn, a daeth i’r DU fel ffoadur yn 2000.

Roedd hi’n dioddef o Anhwylder Straen Ôl-drawmatig (PTSD) mewn gwlad ddieithr, heb unrhyw gefnogaeth a dim unman i droi. Roedd hi mewn sefyllfa wael, yn isel ei hysbryd, dros ei phwysau a gyda thri o blant dan bump i’w magu ar ei phen ei hun. Trawsnewidiodd ei bywyd gydag ymarfer corff ac mae bellach yn helpu eraill i wneud yr un peth trwy ei hyfforddiant personol.

Mae rhaglen Exercise for Everyone yn dod â phobl ynghyd i fwynhau cwmni da, bwyd a chadw’n heini i gyd ar yr un pryd! Mae’r rysáit hwn yn rhad, yn iach ac yn faethlon a gellir ei wneud am lai na £1 y pen.

Cynhwysion

Gallwch brynu pysgod hallt yn y rhan fwyaf o archfarchnadoedd – fe’i gelwir hefyd yn bacalao neu bysgod sych. Mae’n rhan annatod o lawer o ddietau ledled y byd.

  • 1 pecyn o bysgod hallt
  • 1/4 chwarter bresych (wedi’i dorri’n fân)
  • 1 winwnsyn mawr
  • 1 tun o domatos mân
  • 1 lwy fwrdd o biwrî tomato
  • Sesnin (pupur du, halen, perlysiau cymysg, garlleg, pupur cayenne)
  • 2 gwpan o reis

Dull

Salt fish and cabbage cooking together

Cam 1

Sociwch y pysgod mewn dŵr oer am sawl awr (neu dros nos).

Cam 2

Berwch y pysgod nes ei fod wedi’i goginio (tua 5 munud).

Cam 3

Torrwch winwnsyn a’i ffrio’n ysgafn gyda sesnin, yna ychwanegwch y pysgod.

Cam 4

Ychwanegwch y tomatos mân a’r piwrî tomato, ac ychwanegwch fwy o sesnin (os oes angen). Coginiwch ar wres isel am hyd at 5 munud.

Cam 5

Torrwch y bresych yn stribedi tenau. Gorchuddiwch nhw a’u stemio ar wres isel nes bod y bresych yn barod.

Cam 6

Berwch y reis nes ei fod wedi’i goginio a’i weini gyda’r pysgod. Mwynhewch

Mwy am Exercise for Everyone

Mae Exercise for Everyone yn cydnabod bod pobl o grwpiau poblogaeth sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol yn llai tebygol o fod yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol actif ac yn fwy tebygol o brofi canlyniadau iechyd andwyol.

Mae Exercise for Everyone yn fudiad nid er elw sydd â’r nod o ddarparu’r “lle i fynd” i’r difreintiedig yn y gymuned leol.