Skip to content

Pasta llysiau’r gwanwyn 

Yr asbaragws crensiog, y pys melys, y brocoli hynod feddal sy'n gorchuddio'r pasta bron fel pesto - mae'r pryd hwn yn taro deuddeg.

Joe Wicks cooking in a wok

Rysáit gan Joe Wicks

Os ydych chi’n ceisio bwyta ychydig yn fwy iachus, beth am roi cynnig ar y rysáit hon.

Y tric yw torri’r brocoli yn eithaf bach, gan eich bod yn mynd i’w gorgoginio’n fwriadol – byddwch wrth eich bodd pan fydd y cyfan yn cymysgu â’r pasta.

Cynhwysion

Digon 4

Stars gif transparent background

  • 1 brocoli, wedi’i dorri’n fân, heb y coesyn
  • 300g (10 owns) pasta penne
  • 2ml olew olewydd extra-virgin
  • 200g (7 owns) o asbaragws, wedi’i dorri’n dalpiau 2–3cm (¾–11/4 modfedd)
  • 4 ewin garlleg, wedi’u torri’n fân
  • 4-5 sbrigyn o rosmari ffres, wedi’i dorri’n fân
  • 150g (5 owns) pys wedi’u rhewi
  • croen a sudd 1-2 lemon
  • 50g (2 owns) Parmesan, wedi’i gratio’n fân, a mwy i’w weini
  • halen a phupur du mâl

Dull

 

1)

Rhowch y tegell ymlaen, yna arllwyswch y dŵr berwedig i mewn i bot mawr. Ychwanegwch y brocoli wedi’i dorri a’r penne a berwch nes bod y pasta yn al dente a’r brocoli yn feddal iawn, tua 9 munud

2)

Yn y cyfamser, mewn padell ffrio fawr, cynheswch yr olew a ffriwch yr asbaragws nes ei fod yn euraidd iawn ac ychydig yn grensiog. Taflwch y garlleg a’r rhosmari i mewn a’u ffrio am 1 munud nes eu bod yn bersawrus.

3)

Unwaith y bydd y pasta a’r brocoli wedi’u coginio, defnyddiwch lwy â thyllau i drosglwyddo’r pasta a’r brocoli yn syth i badell yr asbaragws a’i daflu’n egnïol gydag ychydig o ddŵr y pasta i’w gyfuno. Ychwanegwch y pys wedi’u rhewi, croen a sudd 1 lemwn a’r Parmesan a pharhau i gymysgu’n egnïol nes bod saws sgleiniog yn glynu wrth y pasta.

4)

Gweiniwch y pryd gyda digon o Parmesan ychwanegol ar y top.