Skip to content

Helwyr-gasglwyr

Mae'r gêm hon mor syml i'w chwarae ond gall fod yn llawer o hwyl. Mae'n llawn tensiwn a chyffro wrth i'r gystadleuaeth adeiladu i ddod â'r reddf heliwr-gasglwr i'r amlwg ym mhob un ohonom.

Sut i chwarae

Gwnewch restr o eitemau cartref, neu defnyddiwch ac addaswch y rhestr isod. Rhoddir y rhestr i bob tîm ar yr un pryd; yna rhaid rasio i gael popeth allan ar y stryd o gartrefi aelodau’r tîm. Mae hon hefyd yn gêm wych i’w chwarae yn ystod galwadau ar-lein! 

Dylai pob eitem ddod o gartref gwahanol. Gallwch addasu hyd y rhestr hon yn dibynnu ar nifer y gwahanol gartrefi sy’n chwarae ym mhob tîm. 

Rhestr enghreifftiol

• Taten 
• Moronen 
• Rholbren 
• Chwisg 
• Powlen golchi llestri llawn dŵr sebonllyd  
• Paned o de 
Llwy de o halen 
Llwy fwrdd o olew 
Sleisen o dost gyda menyn