Skip to content
Sun catcher

Creu daliwr haul naturiol

Mae creu daliwr haul naturiol yn ffordd hwylus o ddod â blas o’r awyr agored tu mewn, er mwyn i chi allu archwilio ac arsylwi lliwiau, siapau a manylion y byd natur. Mae pob tymor yn cynnig eitemau newydd i’w darganfod, felly beth am fynd allan i gychwyn chwilota! 

Bydd angen arnoch

  • Plât papur 
  • Papur gludiog 
  • Llinyn 
  • Siswrn 
  • Tyllwr 
  • Yr eitemau o’ch helfa natur

Cyfarwyddiadau

 

1) Casglwch ystod o drysorau naturiol, megis dail ysgafn, blodau, glaswellt neu blu.

 

2) Gwnewch eich ffrâm trwy dorri canol y plât allan yn ofalus. Bydd ymyl y plât yn ffurfio ffrâm y daliwr haul (gallwch ailgylchu’r darn canol). Peidiwch ag anghofio addurno’ch ffrâm hefyd! 

 

3) Torrwch y papur gludiog yn gylch ychydig yn fwy na’r twll yn y ffrâm. Piliwch y tâp oddi ar y papur a’i wasgu ar gefn y ffrâm. Sicrhewch fod yr ochr ludiog i fyny pan roddwch chi’r plât ar y bwrdd.

 

4) Trefnwch eich trysorau a chreu dyluniad ar ben y papur gludiog. Pwyswch nhw i lawr i sicrhau eu bod yn sownd.

 

5) Ar ôl gorffen, gwnewch dwll ym mhen uchaf y ffrâm a chlymwch y llinyn drwy’r twll. Hongiwch y daliwr haul i fyny ar y tu mewn i ffenestr a gadewch i’r golau ddisgleirio drwyddo.