Cacen Eisin Lemwn Heb Glwten Gan Rosie
Mae hon yn gacen lemwn hynod ffres a blasus, basai neb byth yn dyfalu bod dim glwten ynddi. Gellir defnyddio croen oren neu leim os oes well gennych.
Cynhwysion
- Croen 4 lemwn (neu leim/oren)
- 220g siwgr mân
- 220g margarîn
- 4 ŵy mawr
- 220g blawd codi heb glwten
- ½ llwy de o bowdwr codi
- 1/8 llwy de o gwm xanthan (os nad yw eisoes yn eich blawd – edrychwch ar y bag)
- 50g siocled gwyn (wedi toddi)
Ar gyfer yr eisin:
- Sudd 1 lemwn
- 2 lwy fwrdd o siwgr mân
Ar gyfer yr addurn (dewisol):
- 50g siocled gwyn
- Mwy o groen lemwn
Dull
Cam 1
Cynheswch y ffwrn i 160 gradd ffan (180 confensiynol). Irwch dun torth 1lb neu dun crwn 7 modfedd (gyda chwistrell olew neu gyda margarîn).
Cam 2
Toddwch y siocled (byrstiau byr ar osodiad isel yn y microdon neu mewn bowlen dros sosban o ddŵr sy’n mudferwi’n ysgafn). Ychwanegwch y siwgr mân a’r margarîn i’r bowlen a’i chwipio tan iddo droi’n olau ac yn ysgafn.
Cam 3
Ychwanegwch yr wyau, blawd, croen ffrwyth, gwm xanthan (os oes angen), powdwr codi a’r siocled gwyn a chymysgu’r cyfan yn dda. Trosglwyddwch y gymysgedd i’r tun torth/cacen a llyfnhewch y top.
Cam 4
Pobwch am 40-45 munud cyn ei wirio – os yw sgiwer yn dod allan o ganol y gacen yn lân, mae’n barod, os nad yw, rhowch 5 munud arall i’r gacen cyn ei wirio eto.
Cam 5
Paratowch yr eisin trwy gymysgu’r sudd lemwn a’r siwgr mân. Trosglwyddwch y gacen i silff oeri ar ôl ei adael i oeri yn y tun am 10 munud.
Cam 6
Defnyddiwch ffon goctel i wneud llawer o dyllau bach yn nhop y gacen, yna arllwyswch yr eisin dros y gacen.
Cam 7
Gadewch y gacen i oeri’n llwyr cyn toddi’r siocled. Defnyddiwch lwy de i arllwys y siocled yn ysgafn mewn llinellau main dros dop y gacen. Ysgeintiwch gymysgedd o groen ffrwyth a siwgr mân ar y top.
Am fwy o ryseitiau gan Rosie, mynd i: Rosie Brandreth-Poynter – rosieandralphbake.co.uk @rosiebrandreth