
Peli siocled Nadoligaidd Lizzie
Mae’r rhain yn hynod gyflym a ddim yn cynnwys nifer fawr o gynhwysion. Mae’n bosib y bydd eich dwylo’n ludiog ar ôl eu rholio nhw.

Lizzie Acker
Diolch i Lizzie Acker o raglen Bake Off am ddarparu’r rysáit hynod syml a blasus hon ar gyfer peli siocled. Rydym yn argymell eu cadw mewn jar gwydr gyda phapur pobi rhwng yr haenau, neu beth am eu rhoi mewn blwch Nadoligaidd a’u rhoi yn anrheg.
Yn ôl Lizzie, bydd y rysáit hon yn gwneud eich dwylo braidd yn ludiog, felly mae’n un gwych i gael y plant i helpu (heb yr alcohol dewisol!)
Cynhwysion
Bydd y rhain yn gwneud tua 12 peli siocled (yn dibynnu ar ba mor fawr neu fach rydych chi’n eu hoffi)
- 200g hufen dwbl
- 200g siocled tywyll
- 20g Amaretto neu Baileys neu Chwisgi neu gadewch yr alcohol allan ac ychwanegwch ychydig o rin almon
- 30g o fenyn hallt
- Bag bach o almonau
Dull

- Cynheswch yr hufen yn y microdon
- Torrwch y siocled yn ddarnau bach a’i gymysgu i mewn i’r hufen nes ei fod wedi toddi
- Ychwanegwch y menyn a’r alcohol o’ch dewis neu’r rhin almon i mewn i’r gymysgedd siocled a’i gymysgu tan fod popeth wedi cyfuno
- I’w oeri’n gyflymach, arllwyswch y gymysgedd i mewn i ddysgl bobi a’i roi yn yr oergell am ddwy awr tan ei fod wedi caledu
- Rhowch yr almonau ar silff bobi a’u gorchuddio gydag ychydig olew a phinsiad o halen a’u rhostio tan eu bod yn euraidd ar 160c am ryw 10 munud
- Gadewch y cnau i oeri yna eu torri’n ddarnau bach
- Pan fydd y siocled wedi caledu, cymerwch ychydig o’r gymysgedd a’i rholio i mewn i bêl yn eich dwylo
- Yna rholiwch y bêl yn y cnau
- Rhowch nhw yn yr oergell i’w caledu eto, yna rhowch nhw’n anrhegion i’ch cymdogion

Y Cinio Mawr adeg Dolig
Mae’r Cinio Mawr yn dod â miliynau o bobl at ei gilydd i rannu cyfeillgarwch, bwyd a hwyl ar gyfer dathliad blynyddol y DU ar gyfer cymdogion a chymunedau.
Dros y Nadolig, rydym yn annog pawb i ddod â chymdogion, ffrindiau, cydweithwyr neu wirfoddolwyr at ei gilydd i ddathlu ein cysylltiadau a chadw ein cymunedau yn glyd. Mae gennym yr holl adnoddau sydd eu hangen arnoch i gynnal Cinio Mawr adeg Dolig, o wahoddiadau i dempledi cracer a baneri bwyd.