Torch stwffin, brie a llugaeron nadoligaidd
Mae Lauren wedi bod yn ddigon caredig i rannu'r rysáit hon gyda ni, a fydd yn siŵr o fod yn boblogaidd yn eich parti.
Cwrdd â Lauren
Mae Lauren o The Starving Student wedi bod yn ddigon caredig i rannu’r rysáit hon gyda ni, a fydd yn siŵr o fod yn boblogaidd yn eich parti.
“Mae’r blasau’n hynod draddodiadol ar gyfer y Nadolig, ac yn gwneud i’r tŷ arogli mor dda. Fe wnes i hefyd ychwanegu bwa crwst ar ei ben i wneud i’r dorch edrych yn arbennig iawn.
Rwy’n defnyddio crwst parod ond os gallwch chi wneud eich crwst pwff eich hun, ewch amdani…hyd yn oed mwy o glod i chi!”
Cynhwysion
Mae’r rysáit isod yn gwneud 1 torch (digon ar gyfer 10-12 darn bach)
- 3 llwy fwrdd o saws llugaeron
- 175g brie
- 2 ewin garlleg
- 1 winwnsyn coch bach
- 6 selsig porc (neu selsig fegan)
- 2 sleisen o fara
- Halen a phupur
- 2 ŵy
- 1 llwy de o berlysiau cymysg
- 1 x rholyn 320g o grwst pwff parod
- Llond llaw o rosmari ffres (addurn)
Dull
1)
Cynheswch y popty i 200 gradd Celsius. Tynnwch y crwst pwff allan o’r oergell i gynhesu i dymheredd ystafell.
2)
Yn gyntaf, i wneud y stwffin, torrwch yn ysgafn i mewn i’r crwyn selsig a’u pilio oddi ar y selsig. Blendiwch y bara nes bod briwsion bara wedi’u ffurfio. Torrwch y winwnsyn yn fân. Malwch y garlleg. Ychwanegwch y selsig, winwnsyn a garlleg mewn powlen gymysgu gyda’r briwsion bara, perlysiau cymysg, halen a phupur a halen a phupur, ac 1 wy. Gan gadw un llaw yn lân, defnyddiwch y llaw arall i wasgu a chymysgu’r cynhwysion i ffurfio past tebyg i does.
3)
Ar silff bobi fawr, gwastad, ychwanegwch ddarn o bapur pobl a rhowch bowlen fach yn y canol.
Dad-roliwch y crwst yn ofalus. Torrwch yn hanner ar ei hyd fel bod gennych 2 ddarn hir. Yna torrwch yn groeslin i greu trionglau mawr, hir.
4)
Rhowch y trionglau ar y silff bobi, gyda gwaelod byrrach y triongl ar ymyl y bowlen, gyda’r trionglau yn wynebu allan fel seren.
Unwaith y bydd eich llenwadau yn barod, mae’n bryd cynhesu’ch popty ymlaen llaw i 180-200 gradd Celsius, neu farc nwy 5/6.
5)
Taenwch y saws llugaeron o amgylch y cylch mewnol. Cymerwch beli bach o’r cymysgedd stwffin porc a gwasgwch i lawr dros y cylch saws llugaeron (fyddwch chi ddim yn defnyddio’r cyfan, felly fe wnes i bobi’r stwffin dros ben a’i bopio yn yr oergell am y diwrnod wedyn). Ychwanegwch sleisys o brie o amgylch y cylch ar ben y stwffin.
6)
Ychwanegwch ychydig o halen o amgylch y cylch. Trowch bob ‘pwynt’ o’r triongl dros y llenwad i greu’r ‘torch’. Tynnwch y bowlen o’r canol.
Pwyswch bob ‘pwynt’ o’r trionglau i mewn i’r crwst ar waelod y silff bobi i wneud iddynt lynu at ei gilydd. Brwsiwch y toes gydag wy wedi’i guro ac ysgeintiwch ychydig o halen a phupur.
7)
Ar gyfer ffactor ‘wow’ ychwanegol, torrwch fwa allan o’r crwst dros ben a’i ychwanegu at y silff bobi, hefyd wedi’i frwsio ag wy wedi’i guro. Pobwch am 20-25 munud nes ei fod yn frown euraid ac yn grensiog.
Y Cinio Mawr adeg Dolig
Mae’r Cinio Mawr yn dod â miliynau o bobl at ei gilydd i rannu cyfeillgarwch, bwyd a hwyl ar gyfer dathliad blynyddol y DU ar gyfer cymdogion a chymunedau.
Dros y Nadolig, rydym yn annog pawb i ddod â chymdogion, ffrindiau, cydweithwyr neu wirfoddolwyr at ei gilydd i ddathlu ein cysylltiadau a chadw ein cymunedau yn glyd. Mae gennym yr holl adnoddau sydd eu hangen arnoch i gynnal Cinio Mawr adeg Dolig, o wahoddiadau i dempledi cracer a baneri bwyd.