Bara Banana A Brownie Alana Spencer
Yn hoffi bara banana? Yn hoffi brownies siocled? Mae Alana Spencer wedi rhannu’r rysáit hyfryd hon sy’n cyfuno’r ddau ffefryn yma, sef bara banana a brownie. Blasus!
Cynhwysion
Ar gyfer y bara banana:
- 140g o fenyn hallt
- 140g siwgr mân
- 2 ŵy buarth mawr
- 140g blawd codi
- 3 banana aeddfed (2 wedi’u stwnsio ac un yn gyfan)
Ar gyfer y brownie:
-
- 60g o siocled tywyll
- 50g o fenyn hallt
- 90g siwgr mân
- 1 llwy fwrdd o siwgr brown
- 1 ŵy buarth
- 75g blawd codi
Ar gyfer y caramel:
- 200g o laeth cyddwysedig
- 30g o fenyn hallt
- 30g siwgr brown
Dull
Cam 1
Cynheswch eich ffwrn i 180c a leiniwch dun sgwâr 20cm gyda phapur pobi. Cychwynnwch trwy baratoi cymysgedd y bara banana trwy guro’r siwgr a’r menyn tan ei fod yn olau ac yn llyfn.
Cam 2
Ychwanegwch eich wyau a chymysgu tan fod popeth wedi cyfuno. Hidlwch y blawd i mewn ac ychwanegwch eich banana wedi’i stwnsio. Cymysgwch tan fod y cyfan wedi’i gyfuno’n dda a’i roi naill ochr.
Cam 3
Nawr, mae’n bryd gwneud y caramel a’r peth cyntaf i’w wneud yw toddi’r menyn a’r siwgr mewn sosban ar wres canolig tan fod y cyfan wedi ymdoddi.
Cam 4
Ychwanegwch y llaeth cyddwysedig, trwoch y gwres i lawr i wres isel i ganolig, gan chwipio’r cyfan yn gyson tan ei fod yn drwchus ac yn euraidd cyn ei roi naill ochr.
Cam 5
Yn olaf, gwnewch y brownies trwy roi’r menyn a’r siocled mewn sosban a chynhesu’r cwbl ar wres isel tan ei fod wedi toddi. Ychwanegwch y siwgr tan ei fod wedi toddi, cymerwch y sosban oddi ar y gwres a’i adael i oeri.
Cam 6
Tra bod eich brownie yn oeri, torrwch eich banana ar ei hyd yn 4 darn i greu streipiau tenau, a’u gosod yn fflat yn y tun a baratowyd gennych yn gynharach.
Cam 7
Gorchuddiwch y sleisys banana hyn gyda 2/3 o’ch caramel gan sicrhau bod y gofod rhwng y sleisys yn aros yn gyfartal. Cadwch y caramel dros ben i’w arllwys yn ysgafn dros y top pan fyddwch yn gweini’r gacen.
Cam 8
Nawr bod cymysgedd y brownie wedi oeri ychydig, ychwanegwch yr ŵy a chyfuno’r cwbl. Yn olaf, ychwanegwch y blawd a chymysgu’r cyfan unwaith eto.
Cam 9
Nawr, rydych yn barod i roi cymysgedd y brownie a’r bara banana ar dop eich caramel! Penderfynais ychwanegu 1/2 cymysgedd y bara banana, cymysgedd y brownie i gyd ac yna, gweddill y bara banana er mwyn cael haenau deniadol.
Cam 10
Pobwch ar 180c am 30-35 munud, profwch y gacen gyda fforc, os yw’n dod allan yn lân, mae’n barod. Cymerwch y gacen allan o’r ffwrn a’i adael i oeri.
Tipiwch y gacen allan o’r tun fel bod y sleisys banana ar y top, gorchuddiwch y gacen gyda gweddill eich caramel a thretiwch eich hun i ddarn neu 3!
Mwy o ryseitiau fel y bara banana blasus hwn gan Alana, yma.