12 December 2019

Mwynhewch y Nadolig heb y gwastraff osgoadwy sydd fel arfer yn dod gyda'r ŵyl! O addurniadau cartref a phapur lapio, i fwyd dros ben, mae nifer o ffyrdd hawdd o wneud y dathliadau yn llai gwastraffus eleni.

Addurniadau Nadolig cartref

Eleni, beth am roi cynnig ar wneud eich addurniadau Nadoligaidd eich hun. Cymerwch olwg ar ein syniad am garlant sitrws, sy'n hynod brydferth ac sy'n arogleuo cystal ag y mae'n edrych. Gellir rhoi'r addurn hwn ar eich coeden neu ei hongian rhywle o amgylch y tŷ. 

Rhowch y tinsel naill ochr a gwnewch le ar gyfer byntin Nadoligaidd. Gwnewch eich byntin eich hun a'i hongian yn y tŷ dros y Dolig; beth am fynd cam ychwanegol a rhoi anrhegion neu bosau yn y pocedi i aelodau o'r teulu neu westeion sy'n dod i ymweld â chi. Mae'n addurn hyfryd y gallwch ei defnyddio blwyddyn ar ôl blwyddyn, gan greu traddodiad newydd, un sy'n well ar gyfer y blaned. Gwych!

Gwahanol ffyrdd i lapio anrhegion ar gyfer anwyliaid 

Mae cymaint o ffyrdd y gallwch fod yn eco-gyfeillgar a/neu ddi-wastraff wrth lapio anrhegion. Paratowch i bostio'ch syniadau ar Pinterest.

Un o'r opsiynau rhatach yw papur brown wedi'i ailgylchu sy'n wych os oes gennych chi gyllideb gyfyngedig neu beidio oherwydd ei bod yn edrych yn draddodiadol ac yn ffasiynol. Mae tâp papur yn ddewis amgen mwy cyfeillgar i dâp gludiog neu gallwch glymu eich anrhegion gyda llinyn neu gortyn. Os yw'n cael ei agor yn ofalus, gallwch gadw'r papur i'w ailddefnyddio.

A oes gennych chi heb bapurau newydd neu gylchgronau o amgylch y tŷ? Peidiwch â'u taflu nhw i ffwrdd, trowch ddalen newydd a'u defnyddio fel papur lapio.

Beth am ddefnyddio unrhyw hen ffabrig Nadoligaidd sydd gennych chi i wneud eich anrhegion yn unigryw. Os nad oes gennych chi unrhyw hen ffabrig, beth am alw heibio eich siop ffabrig leol a allai fod â darnau sbâr a fyddai fel arall yn cael eu taflu. Yn ogystal â chefnogi siopau lleol, mae'n bosib defnyddio'r ffabrig dro ar ôl tro. Defnyddiwch gortyn neu ffabrig dros ben i glymu cwlwm o amgylch yr anrheg.

Os nad oes un o'r rhain yn cymryd eich ffansi, ceisiwch brynu papur lapio wedi'i ailgylchu y gellir ei ailgylchu er mwyn lleihau gwastraff y Nadolig hwn.

Mae coeden am oes, nid am y Nadolig yn unig

Newyddion gwych - mae coed Nadolig go iawn 100% yn gwbl ailgylchadwy! Gellir eu torri yn naddion pren y gellir eu defnyddio mewn parciau neu ardaloedd coetir lleol, yn ogystal â'u stwnsio ar gyfer tirweddu a graddio - llawer mwy defnyddiol nag anfon eich coeden i dreulio ei diwrnodau olaf mewn safle tirlenwi. 

Mae Ailgylchu dros Gymru yn darparu cyngor clir ar sut i ailgylchu eich coeden, gan ei wneud yn hynod syml a gallwch chi hefyd ddod o hyd i fanylion y ganolfan ailgylchu agosaf yn eich awdurdod lleol. Mae cymunedau lleol ac elusennau hefyd weithiau'n casglu coed am rodd fach ac yn eu hailgylchu i chi hefyd, ffordd wych o gefnogi mentrau lleol a chwrdd â phobl newydd hefyd!

Dim gwastraff, diolch!

Yn ogystal â bod yn gyfnod i roi anrhegion, mae Nadolig hefyd yn amser i fwyta! Mae gwastraff bwyd yn tueddu i gynyddu dros gyfnod y Nadolig, ond mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i leihau gwastraff a gwneud i fwyd fynd ymhellach. Dyma rai syniadau... 

Rhowch unrhyw lysiau, tatws neu dwrci dros ben mewn sosban a bydd gennych chi gawl blasus i'ch cynhesu ar ddiwrnod oer ym mis Ionawr.

Beth am ddefnyddio'r holl lysiau dros ben (gan gynnwys sbrowts) i wneud tarten lysiau rhost. Byddai hwn yn bryd gwych i'w rannu dros sgwrs gyda'ch cymdogion ar ôl y Nadolig.

Peidiwch â hyd yn oed meddwl am daflu gweddill y pwdin Dolig i ffwrdd! Gallwch ei defnyddio i wneud hufen iâ pwdin Dolig y gallwch ei fwynhau trwy gydol y flwyddyn.

Gan sôn am fwyd dros ben, yn hytrach na defnyddio haenau glynu, gallwch ddefnyddio deunyddiau lapio cŵyr gwenyn i lapio unrhyw fwyd sy'n weddill. Maen nhw'n hawdd iawn i'w gwneud, yn para amser hir ac yn dda fel anrheg i lenwi hosan.

Gobeithiwn y bydd yr awgrymiadau hyn yn eich ysbrydoli i gychwyn eich Nadolig di-wastraff, eco-gyfeillgar. Mae popeth yn helpu a chofiwch fod camau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.