Ein nod yw gwella hapusrwydd a lles pobl ledled y DU trwy adeiladu cymunedau mwy cadarn sydd wedi eu cysylltu’n well, a helpu eraill i wneud yr un peth.
Mae Eden yn cynorthwyo ac yn annog pobl ledled y DU i gymryd camau cadarnhaol sy’n cryfhau cysylltiadau lleol
Rydym yn dod â phobl ynghyd i gynyddu eu hyder ac i dyfu a rhannu eu doniau. Yna, rydym yn cynorthwyo'r unigolion a'r cymunedau hyn wrth iddynt greu newid cadarnhaol a mynd i'r afael â'r materion o'u cwmpas sydd o bwys iddynt.
Dechreuodd pob dim gyda syniad syml iawn: beth fyddai'n digwydd petai pawb yn y DU yn stopio am ychydig oriau ar yr un diwrnod bob blwyddyn i eistedd am bryd o fwyd gyda'u cymdogion...? Ac felly daeth Y Cinio Mawr i fodolaeth. Ers iddo ddechrau yn 2009, mae Y Cinio Mawr wedi tyfu deg gwaith yn fwy bob blwyddyn, ac mae dathliad blynyddol y DU i gymdogion yn tyfu ac yn gwella bob blwyddyn.
Eleni, aeth 7.3 miliwn o bobl i’w strydoedd, gerddi a chymdogaethau lleol i ddod ynghyd am ychydig oriau o gymuned, cyfeillgarwch a hwyl, mewn dros 90,000 o ddigwyddiadau. Mae Y Cinio Mawr yn cysylltu pobl ac yn annog cymdogaethau mwy cyfeillgar, mwy diogel, lle mae pobl yn dechrau rhannu mwy - sgyrsiau a syniadau, a sgiliau ac adnoddau.
I lawer, mae cynnal Cinio Mawr yn cynnau eu hangerdd am wneud lles yn eu cymuned, a thrwy ein tîm ledled y DU, rydym yn cynorthwyo dros 1000 o bobl i gyflwyno prosiectau cymunedol sy'n gwneud gwir wahaniaeth yn eu hardaloedd.
“Os ydych chi’n awyddus i wneud gwahaniaeth, mae’r gwahaniaeth yn dibynnu ar bwy ydych chi a’r hyn sy’n bwysig i chi”
Os ydych chi'n awyddus i wneud mwy yn eich cymuned, darganfyddwch sut gallwch gymryd rhan - gwnewch y pethau bychain!