Chwe ffordd o gadw ysbryd Y Cinio Mawr yn fyw yn eich cymdogaeth
Os ydych chi'n llawn cyffro ar ôl eich digwyddiad ac yn chwilio am y cam nesaf, mae yna lawer o ffyrdd i gadw'r cysylltiadau i fynd.

1. Anfonwch nodyn o ddiolch
Os gwnaethoch chi gynnal Cinio Mawrneu gymryd rhan mewn un yn lleol, beth am anfon nodyn dilynol bach at eich cymdogion? Rhowch y ddelwedd hon ar eich tudalen Facebook leol neu grŵp WhatsApp, neu lawrlwytho ac argraffu gerdyn i’w roi trwy flychau llythyrau. Mae’n ffordd braf o ddechrau’r sgwrs am eich cyfarfod nesaf hefyd.
2. Dod o hyd i ffordd i gadw mewn cysylltiad
Nawr eich bod wedi cwrdd â phobl newydd yn eich cymuned, mae’n braf dod o hyd i ffordd i gadw mewn cysylltiad a chadw’r cysylltiad i fynd. Gallai hynny fod yn grŵp WhatsApp cymdogaeth, grŵp neu dudalen Facebook, neu hyd yn oed ddiweddariad e-bost ar gyfer grwpiau cymunedol mwy.
Gwnewch beth bynnag sy’n gweithio i’ch cymuned ac anogwch bobl i rannu, sgwrsio a threfnu eu cyfarfodydd neu ddigwyddiadau eu hunain!
3. Mis y Gymuned
Mae Mis y Gymuned yn gyfnod pan rydyn ni’n dod at ein gilydd i ddathlu popeth sy’n gwneud ein cymunedau’n wych.
Mae miliynau o bobl yn cymryd rhan ym Mis y Gymuned bob blwyddyn, felly peidiwch â cholli allan, ymunwch ym mis Mehefin – p’un a ydych am ddathlu gwirfoddolwyr, cysylltu â’ch cymdogion, cefnogi achos sy’n bwysig i chi, neu’n syml i ddweud diolch, mae’r cyfan yn rhan o Fis y Gymuned!
Yn barod i gymryd y cam nesaf?
Os ydych chi’n angerddol am gael effaith gadarnhaol yn eich cymuned, beth am ddechrau eich prosiect eich hun? Mae yna bobl wych yn union fel chi wrth galon llawer o fentrau cymunedol, yn cynnig cefnogaeth ac yn lledaenu caredigrwydd bob dydd.
4. Porwch GoVo am ffyrdd o roi help llaw yn eich ardal chi
Efallai bod y penwythnos drosodd ond mae digonedd o gyfleoedd i roi help llaw a gwneud rhywfaint o ddaioni yn lleol o hyd!
Porwch GoVo i ddarganfod amrywiaeth o rolau gwirfoddol ledled y DU gyda phob math o elusennau ac achosion da, o greu cartrefi i fywyd gwyllt i ddosbarthu parseli ar gyfer banciau bwyd neu wirio llyfrau print bras hygyrch yn eich llyfrgell leol.
Mae rhywbeth i bawb!
5. Lledaenwch ychydig o garedigrwydd
Mae ein hymchwil i effaith (EN) yr argyfwng costau byw wedi dangos ein bod ni i gyd yn dod yn fwy ymwybodol o’r caledi a wynebir gan eraill yn ein cymuned a bod 14% o oedolion y DU yn poeni am eu lles a’u diogelwch bwyd eu hunain. Ond mae hefyd yn galonogol dysgu bod un o bob tri o bobl eisiau dod o hyd i ffyrdd o gysylltu a chefnogi eraill yn lleol.
Ond does dim rhaid iddo fod yn goginio, mae dod â bin y cymdogion i mewn, cynnig mynd â’u ci am dro neu gadw llygad ar eu plentyn am ychydig yn ffyrdd hyfryd o ledaenu ychydig o garedigrwydd – a heb wario ceiniog.
6. Trefnwch daith gerdded gymdogol
Nid oes dim yn codi fy ysbryd yn gyflymach na thaith cerdded a siarad. Mae’r weithred o gerdded neu feicio yn annog positifrwydd oherwydd ein bod yn llythrennol yn symud ymlaen. Mae mynd allan gyda’r nos, neu amser cinio os ydych chi’n gweithio gartref, bob amser yn teimlo fel peth da i’w wneud ac mae’n ffordd braf o ddod i adnabod cymydog neu ddau.
Cymerwch olwg ar ein am ragor o syniadau – neu ymunwch â ni yn un o’n digwyddiadau nesaf am y cyfle i gwrdd â phobl gymunedol o’r un anian yn eich ardal.
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr e-bost
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i gael syniadau hwyliog, gwybodaeth ddefnyddiol a straeon newyddion da ysbrydoledig.