Yn ein barn ni, y mwyaf o gysylltiadau sydd gennym, y mwyaf gallwn ni ei wneud, gyda'n gilydd.
Ledled y DU, mae pobl yn dod at ei gilydd i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu cymunedau, ac fel ymateb i sefyllfa COVID-19 rydym wedi gweld cynnydd enfawr o bobl yn dod at ei gilydd i ymateb i anghenion eu cymuned.
P'un a ydych wedi trochi'ch bysedd traed yn y dŵr â chefnogi cymydog, neu wedi sefydlu grŵp cymorth cymunedol; rydych chi eisoes yn rhedeg prosiect cymunedol ac wedi gwneud ers blynyddoedd, neu mae gennych chi syniad rydych chi am ei archwilio - dyma wahoddiad i chi oll ymuno â'n rhwydwaith a chysylltu â phobl o'r un anian sy'n helpu ei gilydd ar hyd y ffordd.
Mae gennym hefyd ein cyfres o sesiynau ar-lein - ymunwch â ni am gyfle i blymio ychydig yn ddyfnach i feysydd diddordeb mwy penodol - o adeiladu rhwydwaith i wytnwch bwyd, o actifiaeth i'r rôl y gall celfyddydau cymunedol ei chwarae yn y newydd normal hwn. Edrychwch beth sydd ar ddod yma neu ar ein tudalen ar Facebook.
Angen ychydig o ysbrydoliaeth? Dyma ddim ond rhai o'r bobl ledled y DU sy'n gwneud gwir wahaniaeth yn eu cymunedau. Rhowch y tegell ymlaen ac ewch ati i ddarllen eu straeon!
Ymunwch â'r rhwydweithiau ar-lein hyn sy'n archwilio pob math o syniadau a chyfleoedd.
Gwersylloedd preswyl yn yr Eden Project gyda chymysgedd o weithgareddau ymarferol a sesiynau gweithdy, gan helpu i fynd â'ch syniadau i'r cam nesaf.
Dewch o hyd i'r aelod o'r tîm sydd agosach atoch chi er mwyn creu cysylltiadau lleol.
Ymunwch â'r grŵp Facebook sy'n cael ei redeg gan aelodau'r rhwydwaith, ar gyfer aelodau'r rhwydwaith. Maen nhw'n griw cyfeillgar sy'n cefnogi ei gilydd ac yn rhannu sgiliau a phrofiadau.
Cadwch i fyny gyda newyddion, adnoddau, cyfleoedd a straeon diweddaraf y rhwydwaith.
Dewch i'n digwyddiadau rhanbarthol a lleol i gysylltu ag eraill ac i ddysgu sgiliau newydd.
Mae cefnogi pobl, bod yn gymdogol a rhoi eich amser i le neu achos rydych chi'n angerddol am yn cysylltu pobl a chymunedau ac yn gwneud cymdeithas yn gryfach. Mae'r adroddiad byr hwn yn sôn am y gwahaniaeth rhwng gwirfoddoli 'ffurfiol' ac 'anffurfiol', a gwerth y ddau.