Mae'r Cinio Mawr yn digwydd bob blwyddyn ac nid oes angen i drefnu un fod yn rhy gymhleth, gall fod mor fawr neu fach ag y dymunwch. Dyma ein hawgrymiadau i ddechrau arni – ac mae llawer mwy i ddod yn eich pecyn Cinio Mawr y Coroni!
Os yw eich cymuned yn mynd y tu hwnt i'r galw i gefnogi'r rhai o'u cwmpas, rydym am glywed gennych! I ddathlu Coroni'r Brenin, byddwn yn rhoi gardd bobl a pheillwyr, hamper Y Cinio Mawr a £2,500 tuag at brosiect i un gymuned arbennig iawn (a thri arall!)
Mae Mis y Gymuned yn gyfnod pan rydyn ni'n dod at ein gilydd i ddathlu popeth sy'n gwneud ein cymunedau'n wych. Os na allwch gymryd rhan ym mis Mai, gallwch barhau i ymuno â’r hwyl ym mis Mehefin a chynllunio’ch digwyddiad fel rhan o Fis y Gymuned – dewch â’ch cymuned at ei gilydd i gefnogi achosion gwych!
Gall eich Cinio Mawr cyntaf erioed (neu hyd yn oed eich 2il, 5ed neu 10fed Cinio Mawr!) eich peri i fod braidd yn nerfus os ydych yn estyn allan at gymdogion. Bydd ein hawgrymiadau da yn eich helpu i drechu'r ofnau hynny - a pheidiwch ag anghofio bod gennym wahoddiadau yn ein pecyn Cinio Mawr!

Cofrestrwch ar gyfer eich pecyn
Cofrestrwch ar gyfer eich pecyn
Eleni, rydym yn symud Y Cinio Mawr i ŵyl y Banc mis Mai - byddwch yn rhan o hanes ac ymunwch â miliynau ledled y DU ar 6-8 Mai! Mae eich pecyn Y Cinio Mawr rhad ac am ddim yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i ddechrau arni ac rydym wedi cynllunio pecyn Cinio Mawr y Coroni arbennig ar gyfer parti hynod Frenhinol!