Y Cinio Mawr yw ymgynulliad blynyddol y DU ar gyfer cymdogion - yr un diwrnod o'r flwyddyn pan mae pobl yn dod ynghyd i gwrdd, cyfarch, rhannu, chwarae, chwerthin ac, wrth gwrs, i fwyta, am ddim rheswm arall oni bai bod angen i ni wneud.
Mae'r Cinio Mawr, syniad gan yr Eden Project, a ariannir gan y Loteri Genedlaethol, wedi tyfu blwyddyn ar ôl blwyddyn ers yr un cyntaf un yn ôl yn 2009. Y llynedd, bu 9.3 miliwn o bobl gymryd rhan, gan greu a chryfhau cysylltiadau cymunedol ledled y DU. Eleni, fe gynhelir y Cinio Mawr ar ddydd Sul 3 Mehefin a hoffem i bob Cymdeithas Dai gymryd rhan!
Isod, mae popeth sydd angen i chi wybod am y Cinio Mawr, pam ei fod yn bwysig a sut gall Cymdeithasau Tai annog a chefnogi trigolion i ymuno. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r ffilm fer hon yn esbonio'r cyfan a gallwch ei rannu gyda'ch rhwydweithiau!
Darganfyddwch pam fod y Cinio Mawr mor bwysig, a'r effaith mae wedi cael ledled y DU.
Offer ar gyfer cylchlythyron, cyhoeddiadau a chyfryngau cymdeithasol
Ychydig o luniau i'ch helpu i ledaenu'r gair am y Cinio Mawr.
I'ch helpu i ledaenu'r gair
Esiampl o ffurflenni asesu risg y gall y sawl sy'n trefnu Cinio Mawr eu defnyddio
Awgrymiadau a chyngor ar gyfer trigolion
Dyma'n rhestr o Gwestiynau Cyffredin, os nad yw'ch cwestiwn ar y rhestr, cysylltwch â ni a gallwn eich helpu.