Trefnu bws cerdded
Mae ‘bws cerdded’ – sy’n annog plant i gerdded i’r ysgol, dan oruchwyliaeth oedolion – nid yn unig yn hyrwyddo ymarfer corff ac yn lleihau ôl troed carbon, mae’n golygu bod gwahanol rannau o’r gymuned yn gweithio gyda’i gilydd.
Beth fydd ei angen arnoch
- Ysgol gyfagos, y mae ei disgyblion yn byw yn ddigon agos i allu cerdded.
- Holiadur yn gofyn i rieni a fyddant yn awyddus i’w plant gymryd rhan mewn bws cerdded ac a fyddai ganddynt ddiddordeb mewn gwirfoddoli.
- Caniatâd ysgrifenedig gan y rhieni.
- Cofrestr, i’w chymryd ar ddechrau ac ar ddiwedd y daith.
- ‘Gyrrwr’ sy’n arwain y ffordd, yn rheoli’r rota ac yn cymryd y gofrestr.
- ‘Archwilwyr’ o’ch rhestr o wirfoddolwyr i oruchwylio’r plant.
- Llwybr – naill ai o fan ymgasglu (fel rhyw fath o ddull ‘parcio a theithio’ i blant sy’n byw ymhellach i ffwrdd) neu daith gydag ‘arosfannau’ lle gallwch gasglu ‘teithwyr’.
- Amserlen.
- Asesiad risg ar y llwybr. Cofiwch, nid oes hawl gan fysiau cerdded i atal traffig, felly defnyddiwch fannau diogel ar gyfer croesi’r ffordd.
- Yswiriant. Cysylltwch â’ch cyngor i weld a fyddant yn eich yswirio dan eu hyswiriant atebolrwydd cyhoeddus. Os ddim, efallai gall Cydffederasiwn Cenedlaethol Cymdeithasau Rhieni ac Athrawon (NCPTA) gynnig rhywbeth i chi.
- Gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS, a elwid yn flaenorol yn wiriadau CRB). Gwiriwch unrhyw oedolion sy’n helpu ar hyd y daith heb oruchwyliaeth.
- Siacedi llachar ar gyfer y plant a’r oedolion.
- Enw i’ch bws cerdded.
Cyfarwyddiadau
Ewch i gyfarfod â phennaeth ysgol gynradd leol i weld a fyddant yn awyddus i ddechrau cynllun bws cerdded.
Lluniwch holiadur i’w ddosbarthu i rieni trwy’r ysgol yn gofyn a fyddant: a) yn awyddus i’w plant gymryd rhan b) eisiau dull man ymgasglu neu arosfannau c) yn gwirfoddoli i helpu.
Beth am arbed amser trwy ofyn am eu caniatâd yn yr holiadur; gofynnwch iddynt lofnodi a dychwelyd y ffurflen os ydynt yn rhoi eu caniatâd. Gall y plant ei arwyddo hefyd! Gallwch wneud cyhoeddiad mewn gwasanaeth ysgol.
Cynlluniwch y llwybr yn seiliedig ar leoliad eich ‘teithwyr’. Os yw’r llwybr yn rhy hir, beth am ystyried man ymgasglu gyda digon o lefydd parcio.
Lluniwch amserlen ar gyfer codi’r plant (a’u dychwelyd yn y prynhawn). Efallai mai’r holl lwybr yw hyn os oes gennych ddull arosfannau, neu’r amseroedd gadael a chyrraedd os ydych yn defnyddio dull man ymgasglu.
Casglwch eich gwirfoddolwyr ynghyd a threfnwch sesiynau hyfforddiant iddynt gan Swyddog Diogelwch y Ffyrdd y cyngor. Hefyd, trefnwch wiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae’r rhain yn gallu cymryd hyd at chwech wythnos, felly gadewch ddigon o amser.
Ewch at fusnesau sy’n agos at yr ysgol a gofynnwch a fyddant yn awyddus i noddi’r bws cerdded. Gallwch ddefnyddio’r arian ar gyfer gwiriadau DBS a siacedi llachar. Gallwch gynnig rhoi logos y busnesau ar y siacedi hefyd.
Yn fras, bydd angen un oedolyn ar gyfer pob pedwar plentyn rhwng pump a saith oed, ac un am bob chwe phlentyn rhwng saith ac un ar ddeg oed, neu un am bob pum plentyn rhwng pump i un ar ddeg oed - a gyrrwr. Does dim angen i’r bws cerdded fynd bob dydd; byddai dwywaith yr wythnos yn ddigon i wneud gwahaniaeth.
Gwnewch arolwg o nifer y ceir y tu allan i’r ysgol cyn ac ar ôl lansio’r bws cerdded.
Dywedwch wrth y papur newydd lleol a gwahoddwch bennaeth yr ysgol a rhywun o’r cyngor.
Be nesa?
Beth am gymryd rhan yn yr Wythnos Cerdded i’r Ysgol Genedlaethol? Gallwch ystyried rhoi bathodyn i bob plentyn sy’n cymryd rhan mewn nifer benodol o fysiau cerdded.