Skip to content

Defnyddiwch Facebook, Twitter ac Instagram 

Nid yw’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer bywyd cymdeithasol unigolyn yn unig. Gall y rhain fod â phwrpas cymdeithasol, trwy helpu i greu cymunedau sy’n rhannu’r un meddylfryd. Yn bwysicaf oll, maen nhw’n offerynnau rhad ac am ddim ar flaenau eich bysedd!

Facebook

Mae niferoedd anferth o bobl yn defnyddio Facebook bob dydd, felly mae’n ffordd wych o ledaenu’r neges ynghylch eich digwyddiad, grŵp neu brosiect. Mae llwyddiant ar Facebook yn seiliedig ar bobl yn ‘hoffi’ a ‘rhannu’ beth bynnag rydych chi’n ei bostio. Pan fydd rhywun yn pwyso ‘hoffi’, ‘rhannu’ neu ‘yn mynd i ddigwyddiad’, efallai bydd ei ffrindiau’n gweld hynny, ac yn cael eu hannog i wneud yr un peth. 

Mae tri dewis gwahanol wrth sefydlu presenoldeb eich prosiect ar Facebook. Mae Tudalennau Facebook yn cynnig ffordd hawdd o rannu diweddariadau a gall eich arbed rhag sefydlu gwefan. Mae Digwyddiadau Facebook yn eich galluogi i wahodd pobl i ddigwyddiad penodol, ac mae Grwpiau Facebook yn eich caniatáu i ffurfio grwpiau o gwmpas diddordebau a gweithgareddau penodol. 

Mae Tudalennau Facebook yn weladwy i bawb ar y rhyngrwyd, p’un a oes gyda nhw gyfrif neu beidio, felly maen nhw’r un mor werthfawr â gwefan. Dylech roi eich holl wybodaeth allweddol yma, a rhoi diweddariadau rheolaidd yno. Gallwch naill ai gynnwys popeth o fewn Facebook (os yw eich gwybodaeth yn ddigon cryno) neu roi dolenni i’ch gwefan. Mae Facebook Basics yn lle da i ddechrau, ac mae ganddo esboniadau clir iawn am sut mae tudalennau’n gweithio. 

Mae Grwpiau Facebook ychydig yn wahanol; maen nhw’n debyg iawn i fforymau ar y we, ac yn cynnig lle i gydweithio a thrafod materion neu brosiectau penodol. Maen nhw’n gallu bod yn agored i bawb, yn weladwy trwy wahoddiad yn unig, neu yn anweledig. Cofiwch nad ydych yn gallu gwahodd pobl nad ydych yn ffrind iddynt ar Facebook, felly meddyliwch yn ofalus ai dyma’r math o gysylltiad sydd ei angen arnoch. 

Mae Digwyddiadau Facebook yn hanfodol os ydych yn trefnu digwyddiad. Yr oll sydd angen i chi ei wneud yw nodi’r lleoliad a’r amser, ac ychydig o wybodaeth am eich digwyddiad, a bydd Facebook yn eich helpu i wahodd pobl yn hawdd, yn ogystal ag atgoffa pobl yn nes at yr amser. 

 

Twitter

Mae Twitter yn ffordd wych o ddarganfod pobl eraill a all fod â diddordeb yn yr un pethau â chi, a gallwch geisio cael cefnogaeth wrth bobl sydd â niferoedd uchel o ddilynwyr, sydd â chylch dylanwad mawr.  

Y ffordd orau o ddechrau arni ar Twitter yw ymuno â sgwrs sy’n bodoli eisoes ynghylch y pynciau y mae gennych ddiddordeb ynddynt – gall neges syml yn cefnogi rhywun sy’n gwneud prosiect tebyg i’ch un chi fod yn gam cyntaf at ddatblygu eich presenoldeb ar Twitter. Mae defnyddio hashnodau ar Twitter yn gwneud yr un peth â chwilio am air ar Google. Bydd ailadrodd yr hashnod sy’n cael ei ddefnyddio mewn unrhyw destun siarad yn cynyddu’r posibilrwydd y bydd eich negeseuon Twitter yn cael eu gweld gan bawb sy’n dilyn yr hashnod penodol hwnnw. 

Mae Twitter hefyd yn cynnig ffordd hawdd iawn o drosglwyddo gwybodaeth i bawb arall ar y platfform. Er enghraifft, os oes gennych fenter sydd angen cymorth neu ddigwyddiad sydd angen pobl ac mae gennych ddigon o ddilynwyr, gallwch anfon neges Twitter ac annog eich cymuned i ledaenu’r neges. 

Mae’n hawdd i’w ddefnyddio, yn enwedig os oes gennych ffôn clyfar ac yn symud o gwmpas. Gallwch hefyd roi dolen i’ch ffrwd Twitter ar eich gwefan neu’ch blog. Mae hyn yn galluogi pobl heb gyfrif Twitter i weld y newyddion diweddaraf ac yn annog ymwelwyr y wefan i’ch dilyn ar Twitter hefyd. 

 

Instagram

Mae Instagram yn canolbwyntio ar ffotograffiaeth wych. Mae’n ffordd wych o rannu eich lluniau a fideos byr gorau i gymuned o bobl sy’n gwerthfawrogi sut mae pethau’n edrych. Os yw’r ap gennych ar eich ffôn, gallwch olygu unrhyw lun rydych chi’n ei dynnu ac yna ei rannu. Fel Twitter, bydd defnyddio hashnodau mewn ffordd glyfar yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd pobl sydd â diddordeb yn sylwi ar eich lluniau ac yn eich dilyn. 

Gydag unrhyw rwydwaith cymdeithasol, y ffordd orau o ddarganfod os yw’n ddefnyddiol i chi yw rhoi cynnig arni. Efallai na fyddwch yn gweld canlyniadau’n syth, ond trwy dreulio ychydig o amser yn gwrando ar sgyrsiau pobl eraill a gweld sut mae’n gweithio, byddwch yn darganfod yr adeg iawn i fynd amdani. Yn union fel arferion cymdeithasol yn y byd go iawn, os fyddwch yn ymdrechu digon i wrando, gwylio ac ymateb i eraill, byddwch yn gweld y bydd eich llais chi’n dod i’r amlwg hefyd yn y pen draw. 

Beth bynnag fydd eich cyfrwng, defnyddiwch eich synnwyr cyffredin a chofiwch y bydd unrhyw beth rydych yn ei roi ar blatfform cyhoeddus ar-lein ar gael i bawb ei weld. Mae lluniau a fideo bob amser yn fwy poblogaidd na thestun plaen, felly cofiwch dynnu digonedd o luniau a fideos tra rydych chi wrthi. Byddwch yn gyfeillgar, estynnwch law i grwpiau a phobl eraill perthnasol, a diweddarwch eich tudalennau yn aml.

 

Cysylltwch â ni!

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol! Rydyn ni ar Facebook, Twitter ac Instagram.

Gweld holl ganllawiau’r Cinio Mawr