Nid Cenedl o Gymdogion Sy’n Clebran Ydyn Ni Bellach

  • Dyw 1 o bob 7 ohonom erioed wedi siarad gyda’n cymdogion
  • Dyw 1 o bob 7 ohonom ddim yn teimlo ein bod yn gallu galw ar UNRHYW UN yn ein cymdogaeth am gymorth
  • Ni fyddai bron i dri chwarter ohonom yn cyflwyno ein hunain i gymydog newydd neu ddim hyd yn oed yn sicr y baswn yn trafferthu dweud helo. Dyw bron i 40% ohonom ddim yn gwybod beth yw enwau ein cymdogion.
  • Dyw hanner y boblogaeth ddim wedi sgwrsio â chymydog yn ystod y mis diwethaf

Mae clebran gyda’n cymdogion yn perthyn i’r gorffennol yng Nghymru yn ôl arolwg newydd heddiw. Mae’n dangos nad yw hanner y boblogaeth wedi sgwrsio dros ffens yr ardd neu y tu allan i'w cartrefi am fis o leiaf, ac dyw bron i 1 o bob 7 ddim wedi siarad gyda’u cymdogion o gwbl.

Mae'n ymddangos y bod gwneud ffrindiau ar garreg y drws bellach yn perthyn i’r oes o’r blaen gan nad yw 37% ohonom yn gwybod enwau ein cymdogion, a dim ond 23% fyddai'n bwrw drws cymydog newydd i'w croesawu i'r ardal. Dyw bron i dri chwarter (70%) o'r boblogaeth ddim yn teimlo eu bod yn adnabod eu cymdogion yn dda.
Mewn arolwg o 4,000 o bobl gan Y Cinio Mawr, roedd mwy na dri chwarter yr holl ymatebwyr yng Nghymru (81%) yn teimlo fod pobl yn nes at eu cymdogion 20 mlynedd yn ôl nag ydynt heddiw.

Ond er gwaethaf diffyg clebran cymunedol, mae yna awydd cryf i ddod i adnabod ein cymdogion yn well. Mae 77% o boblogaeth Cymru o'r farn ei bod yn well i gymunedau os ydym yn adnabod ein cymdogion, a byddai 59% yn cytuno petasai cymydog yn eu gwahodd am de.

Mae hyn yn newyddion calonogol i’r Cyflwynydd a'r Digrifwraig Jo Brand, Llysgennad Y Cinio Mawr. “Ar adeg pan fo'r wlad yn teimlo'n rhannol ac wedi'i ddatgysylltu, mae'n teimlo’n bwysicach nag erioed i ni ddod at ein gilydd a chofio pwysigrwydd ysbryd cymunedol. Mae'n fy mhoeni i feddwl nad yw 1 o bob 5 ohonom yn teimlo ein bod yn gallu galw ar gymydog os oes angen help arnom. Mae'n drueni fod cymaint o bobl ddim hyd yn oed yn adnabod y bobl sy’n byw yn agosaf atynt. Y Cinio Mawr yw'r ffordd orau i fynd i afael â hyn.

Bob blwyddyn mae miliynau o bobl yn dod at ei gilydd i rannu bwyd, cael hwyl a dod i adnabod ei gilydd yn well. Es i i fy nghinio cyntaf y llynedd - parti stryd gyda chymysgedd go iawn o bobl yn sgwrsio, bwyta a dod i adnabod ei gilydd yn well. Dyna sut ddylai ein cymdogaethau fod. Gall lawer o aelodau bregus ein cymdeithas fynd wythnosau heb weld neu siarad â rhywun arall, felly mae unrhywbeth sy'n annog rhywfaint o gyswllt dynol yn fy ngwneud i’n hapus... a hyd yn oed yn hapusach os oes cacen!”

Syniad gan yr Eden Project yw Y Cinio Mawr, a wnaed yn bosib gan y Loteri Genedlaethol, sy’n denu miliynau o bobl o ar draws y DU. Fe gymerodd 6 miliwn o bobl ran mewn mwy na 68,500 o ddigwyddiadau Y Cinio Mawr y llynedd. Eleni, mae’n ddigwyddiad hyd yn oed yn fwy, dros dau ddiwrnod, Mehefin 1-2.

Mae Peter Stewart o’r Eden Project yn falch iawn o ymateb y DU i’r Cinio Mawr. Meddai: “Bob blwyddyn mae'n cynyddu wrth i fwy a mwy o bobl sylweddoli pwysigrwydd cymuned a’r budd o adnabod cymdogion. Gwyddom fod pethau da yn digwydd pan mae pobl yn dod at ei gilydd, a dyna beth yw’r Cinio Mawr. Rydym wrth ein bodd wrth weld cymaint o bobl ledled y DU yn ymuno a chael hwyl. Gwyddom mai sbardun yw’r Cinio Mawr, sy’n helpu adeiladu cymunedau hapusach a mwy gwydn, lle mae pobl yn adnabod ei gilydd.”

Mae'r Cinio Mawr yn defnyddio canfyddiadau'r adroddiad i lunio mudiad o sefydliadau sydd wedi ymrwymo at gau'r bwlch rhwng pobl yn eu cymunedau. Mae'r adroddiad llawn bellach ar gael yma.