Tarten Tomato, Sbigoglys a Ffeta Alice Fevronia
Tarten Tomato, Sbigoglys a Ffeta Alice Fevronia
Cynhwysion
Ar gyfer y toes:
- 110g blawd codi
- 55g caws wedi'i gratio (defnyddiais i cheddar)
- 70g menyn oer iawn
- 1 llwy de o baprica
- halen a phupur
- 2 lwy fwrdd o ŵy wedi'i guro
Ar gyfer y llenwad:
- 1 llwy fwrdd o olew olewydd
- 2 ewin garlleg wedi'u malu
- hanner winwnsyn wedi'i dorri'n ddarnau bach
- 150g sbigoglys bach
- 60g ffeta
- 3 ŵy cyfan ac 1 melynwy
- 180ml hufen dwbl
- Halen a phupur
- 100g tomatos bach
Dull
1. Mewn prosesydd bwyd, cymysgwch y menyn, blawd, caws, paprica, halen a phupur tan i'r gymysgedd edrych fel briwsion bara.
2. Ychwanegwch y 2 lwy de o ŵy wedi'i guro a'i gymysgu DIM OND ychydig i'r toes ddod at ei gilydd. Dylech fod yn gallu ei gymysgu gyda'i gilydd yn eich dwylo i mewn i bêl.
3. Lapiwch y toes mewn cling ffilm a'i roi i oeri yn yr oergell am ryw 30 munud. Cynheswch eich ffwrn i 190C ffan.
4. Pan fydd y toes wedi oeri, rholiwch y toes allan i drwch o tua 4mm mewn cylch, digon mawr i leinio eich tun. Defnyddiais i gasyn 7 modfedd ond byddai un 8 modfedd hefyd yn gweithio gyda chymaint o does!
5. Irwch y tun, yna rholiwch y toes ar y top gan wasgu'r toes yn ysgafn i mewn i'r corneli. Torrwch y toes sydd dros ben a phriciwch y gwaelod gyda fforc. Pobwch y toes yn wag gyda ffa pobi neu gyfwerth am 15-20 munud.
6. Tynnwch y ffa pobi a phobi'r toes am 10 munud arall tan fod y gwaelod yn euraidd.
7. Mewn padell ffrio, ffriwch y winwns a'r garlleg gydag olew, ac ychwanegwch y sbigoglys tan iddo wywo. Gadewch iddo oeri ychydig cyn ei drosglwyddo i'r casyn crwst. Ysgeintiwch ddarnau o ffeta ar y top.
8. Chwipiwch yr wyau a'r hufen gydag ychydig o halen a phupur a'i arllwys yn ofalus ar dop y sbigoglys a'r ffeta tan iddo bron â chyrraedd top y crwst. Dydych chi ddim eisiau ei llenwi gormod neu bydd y darten yn gorlenwi pan fyddwch yn ychwanegu'r tomato
9. Torrwch y tomatos yn hanner a'u gosod yn ofalus ar dop y gymysgedd. Pobwch ar 180C ffan am 35-40 munud gan sicrhau ei fod wedi coginio yn y canol.
10. Gadewch iddo oeri ychydig cyn ei dynnu o'r tun a'i addurno gyda basil...a mwynhewch!
For more recipes from Alice, go to: Alice Fevronia at alicefevronia.com @alice.fevronia