Cysylltu â’r cyfryngau lleol
Mae cael hanes eich digwyddiad neu brosiect yn y wasg yn helpu i ledaenu’r neges am eich ymdrechion, yn ogystal â darparu tystiolaeth werthfawr am fanteision gweithredu yn y gymuned. Gobeithio bydd hyn yn ysbrydoli ac annog eraill yn eich ardal leol i gymryd rhan a/neu sefydlu eu prosiectau eu hunain.
Pryd ddylwn i gysylltu â’r papur newydd/gorsaf radio lleol?
Os ydych yn trefnu digwyddiad, cysylltwch â gorsafoedd radio a phapurau newydd mewn da bryd, fel bod modd iddynt gynllunio’r stori. Beth am eu gwahodd i gymryd rhan?
Mae gan fathau gwahanol o gyfryngau amseroedd arweiniol gwahanol (faint o rybudd o flaen llaw sydd angen arnynt am wybodaeth a straeon). Mae’r rhain yn amrywio, felly mae’n werth ichi ffonio o gwmpas rhag ofn. Ond, fel rheol gyffredinol:
- Mae cyhoeddiadau misol fel arfer yn gweithio tri neu bedwar mis o flaen llaw
- Mae cyhoeddiadau wythnosol fel arfer yn gweithio pedwar i chwe wythnos o flaen llaw
- Mae papurau newydd dyddiol a gorsafoedd radio fel arfer yn dechrau cynllunio tua wythnos o flaen llaw
- Mae cyhoeddiadau ar-lein yn gallu cael eu cyhoeddi ar unwaith, ond mae’n werth i chi roi gwybod am eich digwyddiad o flaen llaw, fel bod modd iddyn nhw gynllunio eu cynnwys
Pwy ddylwn i ofyn amdano pan fyddaf yn cysylltu â nhw?
Os byddwch yn ffonio’r prif switsfwrdd (dylai’r rhifau fod ar eu gwefannau), ac yn gofyn i siarad â’r ddesg berthnasol, dylai’r gweithredwr allu eich trosglwyddo i’r person perthnasol.
- Os ydych yn awyddus i drafod eich prosiect neu ddigwyddiad, a pham ddylai’r gymuned gymryd rhan, gofynnwch i siarad â’r Ddesg Newyddion
- Os oes gennych stori ddiddorol am brosiectau neu ddigwyddiadau blaenorol rydych chi wedi eu cynnal, rhywbeth arbennig sydd gennych chi mewn golwg, neu enghreifftiau o sut rydych chi wedi helpu eich cymuned, gofynnwch i siarad â’r Ddesg Erthyglau
- Mae llun yn gallu adrodd cyfrolau, felly os oes gennych luniau gwych rydych yn awyddus i’w rhannu, cysylltwch â’r Ddesg Luniau
Y darllenydd sy’n bwysig i newyddiaduron a golygyddion pan maen nhw’n ysgrifennu stori. Ystyriwch sut fydd yr hyn rydych yn ei ddweud yn cael ei drosglwyddo i’r darllenwyr a’r gwrandawyr. Mae newyddiadurwyr yn brysur iawn, felly ceisiwch wneud eich stori mor ddiddorol â phosibl, ac wedi ei dargedu.
Teclynnau defnyddiol
Media UK: cronfa ddata rhad ac am ddim o gyfryngau print a darlledu’r DU. Mae’n hawdd iawn i’w defnyddio; yr oll sydd angen i chi ei wneud yw chwilio am eich tref.
Journalisted: mynegai defnyddiol iawn o bwy sydd wedi ysgrifennu beth yn ddiweddar. Gallwch weld pa newyddiadurwyr penodol fydd â diddordeb yn eich stori cyn ichi gysylltu â nhw.
BBC: mae’r DU gyfan yn cael ei gwasanaethu gan radio lleol y BBC, felly mae’n hawdd dod o hyd i’r ardal sydd fwyaf perthnasol i chi. Edrychwch ar yr amserlen wythnosol i weld pa raglen fydd fwyaf priodol ar gyfer eich stori cyn ichi ffonio’r switsfwrdd.
Radio cymunedol: dyma gyfrwng dylanwadol dros ben ar gyfer cymunedau, gyda chynulleidfa eang, ac mae gohebwyr o hyd yn chwilio am straeon lleol cryf. Mae gan Wikipedia restr wych o orsafoedd radio ar gyfer pob rhanbarth y gallwch gysylltu â nhw.