CWCIS SIOCLED TRIPHLYG HYNOD FLASUS
Crimp ar y tu allan a gludiog ar y tu mewn... bydd y cwcis siocled triphlyg blasus hyn yn mynd yn berffaith gyda phaned. Cynhwysion
Cynhwysion
- 150g siocled tywyll llyfn, wedi'i dorri'n ddarnau
- 150g menyn di-halen, wedi'i meddalu
- 100g siwgr brown ysgafn meddal
- 75g siwgr mân
- 1 llwy de o enllyn fanila
- 1 wŷ buarth, maint canolig, wedi'i guro
- 175g blawd plaen
- 2 lwy fwrdd o bowdr coco
- 1 llwy de o bowdwr codi
- 150g siocled golau llyfn, wedi'i dorri'n ddarnau*
- 150g siocled gwyn llyfn, wedi'i dorri'n ddarnau*
*Os nad ydych chi'n gallu cael 150g o siocled ar ffurf bar, gallwch ddefnyddio rhywbeth arall yn ei le e.e wyau bach, botymau siocled.
Dull
1. Cynheswch y ffwrn i 180°C/marc nwy 4. Leiniwch dwy silff bobi gyda phapur pobi.
2. Rhowch y siocled tywyll mewn bowlen atal gwres dros sosban o ddŵr sy'n mudferwi (sicrhewch na fod y bowlen yn cyffwrdd y dŵr) tan iddo doddi. Gadewch y siocled i oeri ychydig.
3. Defnyddiwch chwisg drydan neu brosesydd bwyd i chwipio'r menyn, y siwgr brown meddal, y siwgr mân a'r enllyn fanila at ei gilydd tan fod y gymysgedd yn llyfn. Defnyddiwch y chwisg i gymysgu'r siocled tywyll a'r wŷ i mewn i'r gymysgedd.
4. Cymysgwch y blawd, y powdr coco a'r powdr codi i mewn i'r gymysgedd tan fod yr holl gynhwysion wedi'u cyfuno'n dda, yna, ychwanegwch y darnau o siocled at y cyfan.
5. Llwywch dalpiau o'r gymysgedd ar y silffoedd pobl a'u pobi am 12 munud.
Awgrym da! Mae'n bosib na fydd y cwcis yn edrych wedi coginio'n iawn ond byddant yn caledu wrth iddynt oeri.