Cau ffordd
Os ydych chi'n ystyried cynnal Cinio Mawr ar eich stryd a'ch bod eisiau cau'r ffordd, mae'n syniad da gwneud ymholiadau gyda'ch cyngor cyn gynted â phosib.
Gallwch gynnal digwyddiad mewn arddull parti stryd ar gyfer eich Cinio Mawr ar unrhyw ddarn o dir neu mewn unrhyw adeilad megis gardd gymunedol, breifat neu dafarn; parc lleol; dreif; iard chwarae ysgol; eglwys; mosg; synagog; gurdwara neu deml - lle bynnag mynnwch chi, cyhyd â bod gennych chi'r caniatâd perthnasol gan y perchennog.
Os ydych chi eisiau cau'ch stryd, dyma sut i wneud hynny.
Mae'n well gwneud hyn cyn gynted â phosib gan fod rhai cynghorau angen hyd at 12 wythnos o rybudd.
- Os ydych chi yng Nghymru neu Loegr, dilynwch y camau ar ddogfen 'Organising a street party' ar wefan gov.uk
- OS ydych chi yn yr Alban, cysylltwch ag adran Ffyrdd a Chymunedau eich cyngor lleol
- Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, ewch i wefan eich cyngor lleol a chwiliwch am y cyfarwyddyd ar gau ffyrdd ar gyfer digwyddiadau arbennig. Argymhellwn eich bod yn caniatáu digon o amser i wneud hyn oherwydd gall y broses gymryd rhwng 21 diwrnod a 16 wythnos. Os ydych yn ystyried gwneud hyn, cysylltwch â thîm Gogledd Iwerddon am gefnogaeth a chyngor
Mae llawer o gyngor ar gau ffyrdd ar wefan Street Party.
Os byddwch yn cael trafferth, mae croeso i chi gysylltu â ni a byddwn yn hapus i'ch helpu.
Os nad yw cau'ch ffordd yn bosib, beth am gynnal eich digwyddiad mewn lleoliad arall. Gofynnwch i bobl yn eich cymuned am y lleoliadau maen nhw'n gwybod amdanynt, efallai bydd rhywun yn eich synnu gyda'r syniad perffaith am leoliad.
Nid yw defnyddio lleoliad dan do o reidrwydd yn golygu bydd rhaid i chi dalu chwaith; esboniwch eich sefyllfa i berchnogion y lleoliad - mae'n bosib y byddant yn hapus i gefnogi digwyddiadau lleol. Fel arall, beth am edrych am fan cymunedol awyr agored - byddwch yn denu mwy o bobl pan does dim ffiniau i'w croesi, a bydd pawb yn gallu gweld cymaint o hwyl rydych chi'n cael!
Os oes angen cefnogaeth arnoch i roi hwb i'ch digwyddiad, cymerwch olwg ar ein hawgrymiadau ar gynyddu lefel eich dylanwad.