Sut i gychwyn prosiect bwyd cymunedol
Mae gan bawb ddiddordeb mewn bwyd. Mae’n ofyniad dynol sylfaenol, ond yn fwy na hynny, mae’n ffordd flasus o gysylltu â phobl eraill yn ein cymunedau. Fel mae pawb yn gwybod, mae bwyd da yn dod â phobl at ei gilydd.

Beth yw prosiect bwyd cymunedol?
Mae prosiectau bwyd cymunedol yn ffordd wych o gael pobl i ddysgu am fwyd, maeth a choginio, tra hefyd yn gwneud y gorau o gynnyrch lleol. Mae llawer ohonynt hefyd yn anelu at wella’r gymuned a’r amgylchedd. Mae prosiectau bwyd cymunedol yn ymwneud â chaniatáu i bobl leol reoli o ble y daw eu bwyd a’u cysylltu â’i gilydd a lle maent yn byw. Mae prosiect bwyd yn ffordd wych o gael pawb i gymryd rhan, dod â chymunedau at ei gilydd, gan helpu i greu ymdeimlad o falchder lleol.
Syniadau ar gyfer prosiectau bwyd arloesol
Mae llawer o ffyrdd y gallwch sefydlu eich banc bwyd eich hun, a gallwch ddod o hyd i’r dull sy’n gweithio orau i’ch cymuned.
- Gerddi bwyd cymunedol neu berllannau cymunedol
- Rhandiroedd
- Bwyd gwyllt a thwrio am fwyd – beth am wneud y jam blasus hwn gydag eirin duon wedi’u chwilota?
- Siopau cymunedol
- Gwneud defnydd o wastraff bwyd
- Cyfnewidiadau bwyd
- Clybiau swper

Sut i gychwyn banc bwyd
Os ydych chi eisiau gwybod sut i sefydlu banc bwyd, rydych chi wedi dod i’r lle cywir! Nid yw sefydlu banc bwyd at ddant pawb gan fod angen llawer o waith, ond gall wneud gwahaniaeth enfawr i’ch cymuned. Yn syml, bydd angen bwyd, arian a gwirfoddolwyr arnoch er mwyn cychwyn arni. Gallwch ddarllen mwy am sut i reoli gwirfoddolwyr yma.
Y camau sylfaenol yw trefnu gofod, ble/pryd/sut y byddwch yn cael rhoddion a sut y bydd popeth yn cael ei gludo. Efallai ei bod yn werth cael cymorth gan rwydweithiau banciau bwyd presennol megis The Trussell Trust.
Adnoddau defnyddiol

Gwirfoddoli
Mae cymaint o fanteision i wirfoddoli. Darganfyddwch ffyrdd o ddod â’ch cymuned…

Dod o hyd i ariannu ar gyfer eich cymuned
Mae llawer o brosiectau cymunedol gwych yn cael eu cyflawni gydag ychydig…

Dechreuwch brosiect cymunedol
Cael effaith gadarnhaol yn eich cymuned trwy ddechrau prosiect i gefnogi eraill.…
Cymuned yw sut rydyn ni’n creu’r dyfodol rydyn ni ei eisiau. Mae cymaint o bobl â chymaint o sgiliau a chymaint o wybodaeth i’w rhannu. Mae cymuned yn golygu dod ynghyd i geisio gwneud rhywbeth gwell ac i rannu cariad a bwyd ac ehangu eich teulu i gynnwys eich cymdogion.