Y Cŵn Poeth Gorau Erioed
Mae’r rysáit Ci Poeth blasus hwn wedi’i rannu’n garedig gan y cogydd â seren Michelin, Tom Kerridge
“Mae’r cŵn poeth hyn yn seiliedig ar hoff ddarn pawb o ginio Nadolig: moch mewn blancedi. Fel coed Nadolig, credir bod cŵn poeth yn hanu o’r Almaen, felly rwyf wedi ychwanegu ychydig o bowdr cyri, mwstard Almaenig a chaws Bafaria i gydnabod hynny. Gwych i’w coginio tu allan ar ddiwrnod oer!”
Cynhwysion
Digon i 4
Winwns Barbeciw Llosg:
- 2 winwnsyn mawr, wedi’u sleisio’n fân 3 llwy fwrdd olew llysiau
Moch Mewn Blancedi:
- 4 selsig mawr
- 2 lwy de orlawn o bowdr cyri 12 dafell o facwn brith
Mayo Mwstard Almaenig:
- 100g mayo trwchus
- 40g Mwstard Almaenig
- 3 llwy de shibwns wedi’u torri’n fân
- 10 cornichon, wedi’u torri’n fân
- 2 lwy fwrdd o dil wedi’i dorri’n fân
- Halen a phupur du mâl
Rhoi Popeth At Ei Gilydd:
- 4 rholyn cŵn poeth hir
- 8 sleisen drwchus o gaws mwg Bafaria
- 8 sleisen hir o bicl dil
- Bwnsiad o shibwns, y rhan werdd yn unig, wedi’u torri’n fân
Dull
Cam 1
I goginio’r winwns, rhowch badell haearn bwrw ar y barbeciw poeth ac ychwanegwch yr olew. Pan fydd hi’n boeth, ychwanegwch y winwns gyda phinsiad hael o halen.
Cymysgwch yn dda a choginiwch am tua 20 munud nes ei fod yn feddal, yn dywyll ac wedi’i garameleiddio.
Cam 2
Yn y cyfamser, paratowch y selsig. Rhowch sgiwer metel trwy hyd pob selsig a gosodwch y sgiwerau ar hambwrdd. Sesno gyda’r powdr cyri, gan geisio cael gorchudd gwastad ar hyd y selsig.
Lapiwch bob un mewn bacwn, gan ddefnyddio 3 dafell fesul selsig, a rhowch ychydig o ffyn coctel i gadw’r bacwn yn sownd.
Cam 3
Rhowch y selsig wedi’u lapio â bacwn ar y barbeciw poeth a’u coginio am tua 10 munud, gan eu troi bob munud neu ddwy.
Tra eu bod ar y barbeciw, cymysgwch gynhwysion y mayo mwstard Almaenig gyda’i gilydd mewn powlen, gan ychwanegu halen a phupur i flasu; rhowch nhw naill ochr am nawr
Cam 4
Unwaith y bydd y selsig wedi coginio drwyddynt, codwch nhw oddi ar y barbeciw a’u rhoi ar hambwrdd. Tynnwch y ffyn coctel a’r sgiwerau metel.
Cam 5
I roi’r cŵn poeth at ei gilydd, torrwch y rholiau ar agor trwy’r brig a gosodwch y sleisys o gaws ynddynt. Ychwanegwch y selsig wedi’u lapio â bacwn a rhoi digonedd o winwns wedi’u carameleiddio a’r sleisys picl ar ben y cyfan.
Cam 6
Rhowch y cŵn poeth ar silff bobi gadarn ar y barbeciw, rhowch y caead arno a’i adael am funud neu ddwy fel bod y caws yn mynd yn toddi. Trosglwyddwch y cŵn poeth i blatiau ac ychwanegwch y mayo Almaenig.
Gwasgarwch y shibwns dros y top am ffresni a’u gweni.
Diolch I Tom Kerridge am rannu’r rysáit blasus hwn.