Skip to content

Teisen fictoria di-ŵy

Tretiwch eich hun i ddarn o deisen Fictoria fegan!

Tretiwch eich hun i ddarn o deisen Fictoria fegan! Mae’r clasur hwn yn cael ei wneud heb wyau neu gynnyrch llaeth ac mae’n cael ei llenwi â haen flasus o hufen menyn fanila fegan a jam mefus, felly mae’n berffaith i rannu gyda’ch cymdogion yn eich Cinio Mawr.

Cynhwysion

Ar gyfer y deisen

  • 400g blawd codi, ac ychydig mwy i ysgeintio
  • 1 ¼ llwy de o soda pobi
  • 250g siwgr mân
  • 115ml olew blodyn yr haul
  • 400ml llaeth almon (neu laeth soia)
  • 3 llwy fwrdd o surop euraidd
  • 2 lwy de o enllyn fanila
  • 4 llwy fwrdd o jam mefus neu fafon
  • 100g o fefus neu fafon i addurno’r deisen (dewisol)

Ar gyfer yr hufen menyn

  • 200g menyn heb gynnyrch llaeth, mae hwn yn ddigon i iro hefyd
  • 175g siwgr eisin, wedi’i hidlo
  • 1 llwy de o enllyn fanila

Dull

Sbwng Victoria Fegan
1)

Cynheswch y ffwrn i nwy 4/180°C/ffan 160°C. Irwch ac ysgeintiwch flawd ochrau 2 x 23cm tun teisen â gwaelod y gellir ei dynnu allan yn hawdd a leiniwch gwaelod y tuniau.

2)

Hidlwch y blawd, y soda pobi a’r siwgr mewn powlen cymysgu fawr a chymysgwch y cwbl gyda’i gilydd.

3)

Chwipiwch yr olew blodyn yr haul, eich dewis o laeth, y surop a’r fanila mewn jwg ac arllwyswch y gymysgedd i mewn i’r cynhwysion sych. Yna, gan ddefnyddio blendiwr llaw, chwisgiwch y cwbl am 2 funud tan ei fod yn drwchus ac yn hufennog.  

4)

Llwywch gymysgedd y deisen i mewn i’r tuniau a baratowyd eisoes a’u pobi am 35-45 munud tan iddynt godi a choginio drwodd. Gallwch ddefnyddio deintbig i wirio hyn (dylai ddod allan yn glir). Tynnwch y teisennau o’r ffwrn a’u gadael i oeri yn y tuniau am 15 munud. Tynnwch y teisennau o’r tuniau a’u gadael i oeri’n llwyr ar silff oeri.

5)

Mae’n bryd paratoi’r llenwad! Curwch y menyn, y siwgr eisin a’r fanila mewn powlen gymysgu, gorchuddiwch y bowlen a’i adael i galedu yn yr oergell nes y byddwch ei angen.

6)

Taenwch y jam yn gyson dros un hanner o’r gacen, cyn rhoi dau draean o’r gymysged hufen ar ei ben. Rhowch yr ail gacen ar y top. Gallwch naill ai ddefnyddio gweddill y gymysgedd hufen a’r ffrwythau i addurno neu ysgeintio siwgr eisin yn ysgafn dros y top.