Skip to content

Sut i wneud eich deunydd lapio bwyd eich hun

Cymerwch gam tuag at fod yn fwy amgylcheddol-ymwybodol o ran pecynnu, storio neu drosglwyddo bwyd.

Os ydych chi am lapio bwyd sydd dros ben neu ginio pecyn, mae deunyddiau lapio cŵyr gwenyn yn ddewis amgen i haenau glynu sy’n gyfeillgar i’r blaned a hefyd yn edrych yn wych! 

Mae deunyddiau lapio cŵyr gwenyn yn hawdd i’w gwneud, maen nhw’n para’n hir a gallwch eu personoli fel y mynnwch. 

 Beth sydd ei angen arnoch

  • Ffabrig cotwm 
  • Gwellaif pincio neu siswrn 
  • Silff bobi 
  • Papur pobi 
  • Pelenni cŵyr gwenyn gradd gosmetig (ar gael mewn siopau bwyd iachus neu ar-lein) 
  • Brws toes neu baentio 
  • Beiro 
  • Lein sychu dillad a phegiau

Cyfarwyddiadau

 

1) Cynheswch y ffwrn i 90°C a thorrwch y ffabrig i’r maint rydych ei eisiau.

Bydd defnyddio gwellaif pincio yn lleihau’r rhaflo ond bydd siswrn yn ddigon da hefyd! 

2) Rhowch eich ffabrig ar silff bobi wedi’i leinio gyda phapur pobi

Os oes gan y ffabrig rydych chi wedi dewis batrwm ar un ochr yn unig, cofiwch roi’r ochr batrymog wyneb i waered. 

 

3) Ysgeintiwch belenni cŵyr gwenyn yn gyfartal ar draws y ffabrig. 

Os ydych yn ansicr, gallwch drio gydag ychydig ac os oes unrhyw fylchau ar ôl cam 4 (isod), gallwch ychwanegu mwy ac ailadrodd y broses. 

Making your own wood wrap - wax on fabric

 

4) Rhowch y silff bobi yn y ffwrn am 5-10 munud

PWYSIG – Cadwch lygad ar y ffabrig pan mae yn y ffwrn gan fod perygl iddo fynd ar dân! 

 

5) Taenwch y cwyr gwenyn

Pan fod y pelenni wedi toddi’n llwyr, defnyddiwch fenig ffwrn i dynnu’r silff o’r ffwrn a lledaenwch y cŵyr gwenyn yn gyfartal ar draws yr holl ffabrig gyda brws paent neu frws toes.

Bydd angen i chi ledaenu’r cŵyr yn gyflym cyn iddo oeri, ond peidiwch â phoeni os yw’n caledu cyn i chi orffen, gallwch ailadrodd cam 4 os oes angen.  

 

6) Amser sychu

Tynnwch y ffabrig o’r silff bobi gan ddefnyddio tongiau a’i hongian i sych dros bapur newydd i ddal unrhyw ddiferiadau.

Mae’r deunydd lapio yn barod i’w defnyddio pan fydd y cŵyr gwenyn wedi caledu a’i bod ddim yn ludiog. 

 

Gofalu am eich deunydd lapio bwyd cŵyr gwenyn 

Gall eich deunydd lapio bwyd bara am flwyddyn neu ragor os byddwch yn gofalu amdano. Argymhellir eich bod yn ei adnewyddu tua unwaith bob 3 mis trwy ei roi yn ôl yn y ffwrn ar bapur pobi ar ben silff bobi, ond mae’n dibynnu pa mor aml rydych chi’n ei defnyddio. I’w lanhau, defnyddiwch ychydig o hylif golchi llestri a’i olchi’n ysgafn gyda dŵr oer. 

Peidiwch â defnyddio dŵr poeth neu ei roi yn y microdon neu’r ffwrn – bydd y cŵyr gwenyn yn toddi! Nid yw’n addas i’w defnyddio gyda chig amrwd. 

Home made food wrap on a jar