Saws pasta 5 y dydd
Saws pasta perffaith, yn llawn blas a llysiau.


Rysáit gan Suzanne Mulholland
Saws pasta perffaith, yn llawn blas a llysiau.
Cynhwysion
- 1 llwy fwrdd o olew olewydd
- 1 cwpan (115g) o winwns wedi’u rhewi wedi’u deisio
- 2 foronen fawr, wedi’u plicio a’u deisio’n fân
- 2 ffon seleri, wedi’u deisio’n fân
- 1 courgette, wedi’i ddeisio’n fân
- 1 llwy de o biwrî garlleg
- 2 dun 400g o domatos wedi’u torri’n ddarnau
- ½ cwpan (120ml) o stoc llysiau
- llond llaw mawr o basil ffres
- halen a phupur
Dull
1)
Ychwanegwch yr olew i sosban fawr wedi’i gosod dros wres canolig. Ychwanegwch y winwns, y moron, y seleri a’r courgette wedi’u deisio a choginiwch am 5 munud.
2)
Cymysgwch y piwrî garlleg, tuniau o domatos wedi’u torri’n ddarnau a’r stoc llysiau drwyddo.
3)
Dewch â’r cymysgedd i’r berw, yna lleihau’r gwres i fudferwi a choginiwch am 20–25 munud nes bod y llysiau’n feddal.
4)
Ychwanegwch at gymysgydd ynghyd â’r dail basil a chymysgwch nes ei fod yn llyfn. Ychwanegwch halen a phupur at eich blas.
5)
Os ydych chi’n rhewi’r saws, gadewch iddo oeri, cyn ei roi mewn bag rhewgell wedi’i labelu, ei selio a’i rewi’n fflat.
Coginio ar yr hob: Arllwyswch y saws i mewn i sosban a’i gynhesu drwyddo nes ei fod yn chwilboeth.
Coginio mewn microdon: Arllwyswch y saws i mewn i gynhwysydd sy’n addas ar gyfer microdon a’i ailgynhesu am 2–3 munud nes ei fod yn chwilboeth.
Awgrym
I wneud gnocchi pob, cymysgwch becyn o gnocchi i’r saws, arllwyswch y cwbl i mewn i ddysgl sy’n addas i’r popty a rhwygwch 2 bêl o mozzarella drosto. Coginiwch ar 180°C/160°C ffan am 30 munud nes ei fod yn euraidd ac yn berwi.