Salad tatws y dduwies werdd


Rysáit gan Poppy O’Toole
“Mae’r salad tatws hwn yn ysgafn ac yn iachusol, ac mae ganddo ychydig o surni sy’n ei wneud yn bryd perffaith i’r gwanwyn. Ysgeintiwch ychydig o gnau pinwydd ac mae’r pryd yn barod.”
Cynhwysion
Digon i 4
- 500g o datws bach
- 30g o bersli deilen fflat, y coesynnau wedi’u tynnu
- 30g o gennin syfi
- 4–5 sbrigyn o dil
- 4–5 sbrigyn o fintys, dail wedi’u pigo, a rhai darnau ychwanegol i addurno os hoffech chi
- 1 llwy fwrdd o gaprau, wedi’u draenio
- croen a sudd ½ lemwn
- 3 llwy fwrdd o gaws hufen braster llawn
- 2–3 llwy fwrdd o olew olewydd
- 2 lwy fwrdd o gnau pinwydd, wedi’u tostio
- 1 tun 50g o ansiofis, wedi’i ddraenio a’i dorri’n fras
- ½ sialotsyn, wedi’i sleisio’n fân
- 2 shibwnsyn, wedi’u sleisio’n fân
- halen a phupur du
Dull
Cam 1
Tywalltwch y tatws i sosban o ddŵr oer, wedi’i halltu’n fawr. Rhowch y sosban dros wres uchel a dod â’r dŵr i’r berw. Berwch y tatws am 15–20 munud, nes eu bod yn cwympo oddi ar flaen cyllell. Draeniwch nhw mewn hidlydd a gadewch iddynt oeri’n llwyr.
Cam 2
Mewn cymysgydd bach, ychwanegwch yr holl berlysiau, ynghyd â’r caprau, croen a sudd lemwn a chaws hufen. Sesnwch yn dda gyda halen a phupur, yna cymysgwch nes ei fod yn llyfn, gan ddiferu’r olew olewydd a sblash o ddŵr i lacio a helpu i bopeth gymysgu. Blaswch a rhoi mwy o halen a phupur os oes angen a rhowch y cwbl o’r neilltu.
Cam 3
Sleisiwch y tatws yn ddarnau mawr a’u rhoi mewn powlen fawr gyda’r cnau pinwydd, brwyniaid, sialóts a shibwns. Llwywch y dresin dros y cwbl a chymysgwch bopeth gyda’i gilydd i’w orchuddio. Gallwch chi ysgeintio ychydig o fintys wedi’i dorri ar ei ben hefyd, os hoffech chi.