Skip to content

Cynnal arddangosfa luniau yn y gymdogaeth

Gwahoddwch gymdogion i ddewis eu hoff luniau (ynghylch thema benodol) i’w harddangos yn eu ffenestri neu mewn lleoliad lleol.

 Beth fydd ei angen arnoch

  • Thema neu syniad am yr arddangosfa e.e. hoff luniau, gwyliau, torri gwallt, neu hen luniau o’r teulu 
  • Lluniau gan bobl yn eich cymdogaeth
  • Dyddiadau a lleoliad ar gyfer yr arddangosfa
  • Hysbysebu fel bod pawb yn gwybod sut i gymryd rhan 
  • Os nad yw’r lluniau’n ddigon mawr neu os nad yw ffenestri pobl yn hawdd mynd atynt, efallai byddwch eisiau chwyddo’r lluniau (gan ddefnyddio sganiwr neu lungopïwr) a’u lamineiddio fel bod modd eu gosod yn rhywle arall (ar y drws neu ar wal yr ardd)
  • Mae gan y mwyafrif o bobl hoff lun o rywun neu rywle. Anogwch eich cymdogion i bori trwy eu halbymau lluniau (neu gyfrifon Flickr) a chael arddangosfa yn ffenestri’r stryd neu’r gymdogaeth. Pwy a ŵyr beth fyddwch yn ei ddarganfod am eich cymdogion… 

Cyfarwyddiadau 

 

Enynnwch ddiddordeb pobl

Enynnwch ddiddordeb pobl a’u cofrestru i gymryd rhan. Esboniwch a hyrwyddwch y syniad i ennyn diddordeb pobl. Gofynnwch o gwmpas, defnyddiwch bosteri a thaflenni, crëwch ddigwyddiad ar Facebook neu rhowch gynnig ar rwydwaith cymdeithasol cymdogol fel Nextdoor. 

 

Penderfynwch pa mor hir

Old photographs

Penderfynwch pa mor hir fydd yr arddangosfa a chynnwys hyn yn eich deunydd hyrwyddo.

 

Cynhaliwch ddiwrnod agored

Cynhaliwch ddiwrnod agored ar gyfer paratoi’r lluniau. Gallwch fod yn greadigol gyda byrddau lluniau a fframiau. Os oes angen i chi gopïo neu lamineiddio’r lluniau, gallwch ddod ynghyd mewn canolfan gymunedol neu lyfrgell sydd â’r cyfarpar angenrheidiol.

 

Hyrwyddwch y dyddiadau

Hyrwyddwch y dyddiadau i ddenu ymwelwyr i’r arddangosfa. Dechreuwch ledaenu’r gair am yr
arddangosfa, a, phan mae’n dechrau, i bobl yn yr ardal o’ch cwmpas. Gallwch drefnu lansiad os dymunwch, gyda diodydd a bwyd, a gwahodd trigolion cyfagos i ddod am dro i lawr eich stryd.

 

Sganio neu dynnu lluniau

Gallwch sganio neu dynnu lluniau o’r lluniau a chreu cyfrif Instagram neu ddigwyddiad Facebook yn benodol ar ei gyfer (gyda chaniatâd y perchennog).

Barod am y flwyddyn nesaf?

Ar ôl yr arddangosfa, gallwch ofyn i bobl i awgrymu thema wahanol ar gyfer y flwyddyn ganlynol.

Os mai chi sy’n cynnal yr arddangosfa yn eich cymdogaeth, meddyliwch am y pethau eraill yr hoffech eu gwneud gyda’r ardal: gerddi stryd, llusernau neu olau bach, gwestai gwenyn neu fomiau edau, er enghraifft!