Cwympwch mewn cariad â chalonnau crog
Mae calonnau ffelt nid yn unig yn hwyl i'w gwneud, mae llawer iawn o wahanol ffyrdd o'u defnyddio nhw! Gallwch eu defnyddio i addurno'r tŷ, eu cuddio yn y bowlen ffrwythau i rywun ddod o hyd i un neu anfon un yn y post at rywun arbennig. Dewiswch rai ffyrdd diddorol neu ryfedd i'w haddurno er mwyn gwneud pob un yn arbennig.
Bydd angen arnoch
- Papur
- Ffelt
- Nodwydd gwnïo
- Edau gwnïo
- Pinnau
- Siswrn
- Rhuban
- Padin (dewisol)
Awgrym: Dewiswch rai addurniadau disglair i ychwanegu at eich calonnau ffelt. Rydym yn hoffi botymau, clychau, secwins, gleiniau, glitter…
Cyfarwyddiadau
Cyn i chi gychwyn, sicrhewch eich bod yn ymgyfarwyddo â phwytho. Argymhellwn bwyth rhedeg syml i ddechreuwyr, ond peidiwch â gadael i hynny eich stopio chi: dyma ddeg pwyth brodwaith â llaw, a sut i’w meistroli.
1) Tynnu a thorri
Defnyddiwch y papur i dynnu llun calon ar un hanner. Plygwch y papur yn hanner a thorrwch o amgylch amlinelliad y galon i gael dwy galon papur o’r un maint. Gallwch ddefnyddio’r rhain fel templedi ar y ffelt. Tynnwch amlinelliad ohonynt yn ysgafn mewn pensil a thorrwch allan dau ddarn o ffelt siâp calon.
2) Amser addurno
Nawr bod gennych chi’r ddwy ochr o’r galon wedi’u torri allan, gallwch ddewis sut i’w addurno nhw neu os ydych chi eisiau gwnïo patrymau arnyn nhw. Os ydych chi’n gludo pethau ymlaen, cofiwch adael digon o amser i’r glud sychu cyn symud ymlaen i’r cam nesaf.
Awgrym: Beth am dorri allan calonnau llai o ddarnau o ffelt o wahanol liwiau a’u gwnïo fel addurniadau ar y calonnau mwy.
3) Gwnïwch
Nawr bod eich calonnau wedi’u haddurno, rhowch nhw at ei gilydd gyda’r ochrau wedi’u haddurno’n wynebu tuag at allan. Dewiswch ddarn o ruban a’i glymu mewn dolen, gan sicrhau dau ben y rhuban rhwng y ddwy galon (gallwch ddefnyddio pwyth neu ddau i’w cadw mewn lle yn ysgafn). Yna, gwnïwch y ddwy galon gyda’i gilydd, gan orffen pan fydd y rhuban yn gadarn yn ei le.
Awgrym: Gadewch agoriad bach ar dop y galon a llenwch eich calon gyda phadin cyn gwnïo’r agoriad ar gau.