Creu gwesty gwenyn ar gyfer eich cymdogaeth
Mae poblogaethau gwenyn yn dirywio ac mae cychod gwenyn yn dechrau methu, ond gall gwesty gwenyn syml gynnig lloches i’r pryfed manteisiol hyn, gwella bioamrywiaeth eich cymdogaeth a helpu i beillio planhigion a choed.

Beth fydd ei angen arnoch
- Sawl darn o fambŵ neu diwbiau cardfwrdd, sawl potel blastig fawr
- Llinyn neu dâp brown, siswrn, siswrn tocio neu haclif fach
- Grŵp o wirfoddolwyr
- Rhywle i greu’r gwesty – os yw’r tywydd yn sych, ewch yn agos at y lleoliad rydych chi eisiau eu gosod nhw
- Rhywle gwyrdd i osod y gwesty
Cyfarwyddiadau
Dyma weithgaredd hwyliog i gael pobl i gymryd rhan, mewn parc, rhandir neu ardd gymunedol lleol. Yr amser gorau i wneud hyn yw rhwng Medi a Chwefror. Bydd y math hwn o westy’n addas ar gyfer sawl math o wenynen.
1) Paratoi
Casglwch eich offer a’ch gwirfoddolwyr ynghyd.
2) Torri’r botel
Gan ddefnyddio’r siswrn, torrwch y botel blastig ychydig yn is na’i wddf.
3) Torri’r cardfwrdd neu’r bambŵ
Torrwch y bambŵ neu’r cardfwrdd tua’r un hyd â’r botel sy’n weddill.
4) Llenwi’r botel
Llenwch y botel â’r bambŵ nes ei fod yn ddigon tynn i aros yn y botel.

5) Clymu
Defnyddiwch linyn neu dâp brown i’w clymu at ei gilydd os ydynt ychydig yn llac.
6) Dod o hyd i leoliad da
Ceisiwch ddod o hyd i rywle gwyrdd, heulog a chysgodol – mae gwenyn wrth eu boddau â haul – a gosodwch y gwesty uwchben y llawr fel nad yw’n mynd i’r cysgod yn rhy gynnar. Os ydych chi eisiau iddo fod yn uwch nag ychydig droedfeddi, rhowch linyn trwy’r botel yn gyntaf a chlymu bob ochr, a dylai hongian dros ffens neu bolyn gât.
7) Gwella’r dyluniad
Os oes rhywun gyda sgiliau celf a chrefft da yn y tîm, gallwch greu fersiwn mwy cymhleth a chadarn trwy greu bocs i roi’r bambŵ ynddo yn hytrach na photel blastig.
Denu gwenyn
I ddenu mwy o wenyn, beth am blannu blodau yn eich stryd neu hau hadau ar gyfer dôl flodau gwyllt?