Cawl Tatws Rhost, Garlleg a Rhosmari
Mae'r cawl tatws rhost, garlleg a rhosmari hwn yn anhygoel o flasus!


Rysáit gan Nancy Birtwhistle
Mae’r cawl hwn yn anhygoel o flasus, a gellir ei wneud yn llysieuol neu’n fegan yn hawdd trwy amnewid y menyn, y stoc a’r llaeth am fersiynau priodol.
Cynhwysion
Digon i 8-10
- 30g o fenyn
- 1 llwy fwrdd o olew
- 1kg o datws blawdiog (pwysau wedi’u plicio), wedi’u torri’n ddarnau sgwâr 1cm
- 1 bwlb garlleg, clofs wedi’u plicio a’u gadael yn gyfan
- 1 llwy de o berlysiau cymysg sych
- 1 ffon seleri, wedi’i sleisio’n denau
- Brigyn mawr o rosmari ffres, dail wedi’u stripio a’u torri’n fân iawn
- 500ml o stoc cyw iâr neu lysiau
- 500ml o ddŵr
- 100ml o laeth
- Halen a phupur
Dull
1.
Cynheswch y menyn a’r olew mewn sosban fawr, ychwanegwch y tatws wedi’u deisio a’u brownio’n eithaf trylwyr i ryddhau llawer o flas. Gadewch i’r tatws dostio’n ysgafn am tua 20 munud.
2.
Ychwanegwch y clofs garlleg cyfan, y perlysiau sych, y seleri a’r rhosmari. Sesnwch gyda halen a phupur, a ffriwch am 5 munud arall.
3.
Ychwanegwch y stoc a’r dŵr, dewch â nhw i’r berw, yna trowch y gwres i lawr a mudferwch am 15–20 munud neu nes bod y tatws a’r garlleg yn dyner.
4.
Cymysgwch i’ch tewychedd dewisol gan ddefnyddio cymysgydd ffon neu hylifydd. Am gawl llai llyfn, cymysgwch hanner yn unig, ychwanegwch y gweddill yn ôl a chymysgu’r cwbl gyda’i gilydd.
5.
Cymysgwch y llaeth i mewn, gwiriwch y sesnin, ailgynheswch y cwbl a’i weini.