Bariau Brûlée Lemwn
Sylfaen teisen frau menynaidd, wedi'i gorchuddio â llenwad lemwn awchus a'i gorffen â haen brûlée grimp. Y cymysgedd perffaith o sur, melys, a chrimp! Gwnewch a phobwch y danteithion hyn ymhen ychydig dros awr a mwynhewch nhw yn eich Cinio Mawr.

Cynhwysion
Ar gyfer y sylfaen teisen frau (crwst cwci):
- 300g blawd plaen (blawd amlbwrpas)
- 75g siwgr eisin (siwgr powdr)
- ½ llwy de halen
- 175g menyn heb halen, wedi’i doddi
Ar gyfer y llenwad lemwn:
- 70g blawd plaen (blawd amlbwrpas)
- Croen 3 lemwn
- 600g siwgr mân (mân iawn)
- 8 wy mawr, ar dymheredd ystafell
- 240g sudd lemwn ffres
Ar gyfer yr haen uchaf brûlée:
- Siwgr gronynnog, ar gyfer carameleiddio
Offer:
- Tun pobi 23 x 33cm (9 x 13 modfedd)
- Papur pobi
- Tortsh fflâm
Dull

1. Paratowch y sylfaen teisen frau:
- Cynheswch eich ffwrn i 175°C (350°F).
- Rhowch leinin papur pobi mewn tun pobi 23 x 33cm (9 x 13 modfedd).
- Mewn powlen fawr, chwisgiwch ynghyd y blawd, y siwgr eisin a’r halen.
- Arllwyswch y menyn wedi’i doddi i mewn a chymysgwch nes ei fod newydd gyfuno.
- Gwasgwch y toes yn gyson yn y tun wedi’i leinio a’i bobi am 20 munud, neu nes ei fod yn lliw euraidd ysgafn.
2. Gwnewch y llenwad lemwn:
- Tra bod y sylfaen yn pobi, rhwbiwch y croen lemwn i mewn i’r siwgr mân i ryddhau’r olewau sitrws.
- Mewn powlen ar wahân, cymysgwch ynghyd y siwgr â’r croen ynddo a 70g o flawd.
- Ychwanegwch y sudd lemwn a’r wyau, gan chwisgio nes eu bod wedi’u cyfuno’n llwyr ac yn llyfn.
3. Pobwch y bariau:
- Arllwyswch y llenwad lemwn ar y sylfaen teisen frau boeth, yn syth o’r popty.
- Dychwelwch hi i’r popty ar unwaith a phobwch am 25 munud, gan droi’r tun hanner ffordd drwodd er mwyn ei bobi’n gyson.
- Tynnwch o’r popty a gadewch iddo oeri ar dymheredd ystafell am 1 awr, ac yna yn yr oergell nes ei fod wedi caledu’n drwyadl.
- Tynnwch allan o’r tun a’r papur pobi, a thorrwch yn fariau o’r maint a ddymunir.
4. Gwnewch frûlée o’r haen uchaf:
- Ar ôl ei dorri, taenellwch haen denau gyson o siwgr gronynnog dros y bariau.
- Defnyddiwch tortsh fflâm i garameleiddio’r siwgr nes ei fod yn euraidd ac yn grimp.
- Fel arall, gallwch ddefnyddio gridyll eich ffwrn: rhowch y bariau ar hambwrdd pobi heb y papur pobi oddi tano, a’u rhoi o dan y gridyll. Cadwch lygad barcud arnynt gan y bydd y siwgr yn carameleiddio’n gyflym. (Mae’n well ei wneud sawl gwaith am gyfnod byrrach nag unwaith am gyfnod rhy hir gan y bydd y bariau’n cael eu difetha)
- Am grac caled iawn, gwnewch y broses brûlée eto gyda haen arall o siwgr.
- Gadewch i’r siwgr sefyll am ychydig funudau cyn ei weini.
Awgrymiadau ar gyfer Bariau Brûlée Perffaith
✔ Arllwyswch y cymysgedd lemwn ar y deisen frau boeth, yn syth o’r popty, cyn ei ddychwelyd i bobi. Mae hyn yn helpu’r haenau i glymu’n berffaith.
✔ Defnyddiwch gyllell llaith i dorri’r bariau’n lân, gan ail-wlychu’r gyllell rhwng pob tafell i atal glynu.
✔ Am haen brûlée fwy trwchus a chrimp, gwnewch nifer o haenau siwgr wedi’i garameleiddio—llosgi un haen, gadael iddi galedu, yna ychwanegu un arall.
Mwynhewch eich Bariau Lemon Brûlée—yn grimp, yn hufennog, ac yn flasus!