Mae creu cymunedau cryfach a chynyddu hapusrwydd a lles pobl ledled y DU yn bwysig i ni. Rydym yn cysylltu pobl ledled y DU trwy ein digwyddiadau, ein profiadau a’n rhwydweithiau, gan annog pobl bob dydd i wneud newidiadau cadarnhaol lle maen nhw’n byw.
Er mwyn helpu pobl a chymunedau i gysylltu, rydym yn gwahodd pobl i ddod yn rhan o rywbeth mwy. Ar ddydd Sul cyntaf mis Mehefin bob blwyddyn, mae miliynau o bobl yn dod ynghyd mewn strydoedd, parciau a gerddi i gymryd rhan yn Y Cinio Mawr, dathliad blynyddol y DU i gymdogion. Gallai Cinio Mawr fod i 3 o bobl neu 300, ond mae’r weithred syml o rannu cinio gyda chymdogion yn dechrau creu newidiadau cadarnhaol. Yn 2016, ymunodd 7.3 miliwn o bobl â’r Cinio Mawr, gyda dros 90,000 o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal ym mhob rhan o’r DU.
‘Dw i'n methu credu sut mae hyn wedi datblygu. Roeddwn i’n byw ar fy stryd am 35 mlynedd heb adnabod neb, bron - nawr rwy’n darganfod pobl rwy’n eu hadnabod ym mhob man oherwydd y Cinio Mawr.’ - David Head
I’r rheiny sy’n awyddus i ddatblygu syniad cymunedol ymhellach, mae ein Gwersyll Cymunedol yn Eden yn cynnig cyfle i gwrdd ag unigolion â’r un meddylfryd sy’n arwain prosiectau cymunedol ledled y DU. Mae pobl sy’n dod yn dweud wrthym nad ydynt yn teimlo ar eu pennau eu hunain bellach, a bod dod yn rhan o’r Rhwydwaith Hwb yn rhoi cymorth iddynt pan maen nhw’n gadael ac yn gwneud cysylltiadau gwerthfawr gyda phobl eraill yn eu hardal.
‘Dwi’n rhan o fudiad! Mae llawer o bobl yn gwneud pethau gwych, sy’n ysbrydoli ac yn gryf ac yn ysgogi – rwy’n teimlo wedi fy adfywio!’ Madeleine Ellis-Peterson
Yn Eden, rydym yn credu ym mhŵer y gymuned, a phŵer pobl sy’n gwneud pethau ar y cyd i wella’u bywydau a bywydau pobl eraill o’u cwmpas. Mae’r cymunedau rydym yn gweithio gyda nhw yn gwneud y pethau bychain sy’n gwneud gwahaniaeth mawr. Ym mhob man yn y DU, mae pobl gyffredin yn gwneud pethau eithriadol, ac rydym yn gweithio gyda nhw i greu cymunedau hapusach, mwy cysylltiedig, sy’n dathlu ble rydym yn byw a phwy sy’n byw yno gyda ni.
Dechreuais gredu bod yr hyn rwy’n ei wneud yn bwysig, ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn fy nghymuned. Roeddwn i’n teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi a llenwyd fi â brwdfrydedd i wneud pethau hyd yn oed yn well.
Darganfyddwch fwy am Pam mae'n bwysig a dewch i gwrdd â phobl i'ch ysbrydoli sydd wedi gwneud pethau anhygoel yn eu cymunedau.