Mae The Eden Project, sy'n elusen addysgol ac yn fenter gymdeithasol, yn creu gerddi, arddangosfeydd, darnau o gelf, digwyddiadau, profiadau a phrosiectau sy'n archwilio sut gall pobl weithio gyda'i gilydd a gyda byd natur er dyfodol gwell.
Ein prosiect cyntaf oedd creu gardd fyd-eang 35 erw mewn ceudwll 50m o ddyfnder, a oedd, un tro, yn bwll clai tsieina, er mwyn arddangos trawsnewid, adfywio a chelfyddyd posibiliadau.
Cawn ein hysbrydoliaeth o'r gred fod pobl yn gallu newid pethau er gwell, a thrwy greu Eden, rydym wedi dysgu beth y gall dyfeisgarwch, defnyddio adnoddau'n effeithiol, gobaith a dyfalbarhad ei wneud. Rydym ni i gyd yn gwybod bod yr 21ain ganrif yn dod â sawl her: diogelwch bwyd, poblogaethau'n symud ac yn cynyddu, planhigion ac anifeiliaid yn prinhau, pris ynni'n codi, poblogaeth sy'n heneiddio, symudiadau economaidd a risg uwch o newid hinsawdd.
Bydd yr heriau hyn yn gofyn am y gorau ym mhob un ohonom; creadigrwydd, dyfeisgarwch, dealltwriaeth, gwyddoniaeth, menter, natur ddynol a'n gallu i gydweithio. Trwy Eden Project Communities, rydym yn cynorthwyo pobl gyffredin i wneud pethau eithriadol, wrth iddynt adeiladu eu sgiliau a'u hyder i greu newid cadarnhaol yn eu cymuned.
Rydym yn rhydd i ddyfeisio'r dyfodol. Beth am greu byd rydyn ni eisiau byw ynddo
Dr Tony Kendle, Eden Project
Sut mae eich cymuned yn effeithio arnoch chi? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ynghylch pam bod y pethau hyn yn bwysig i ni i gyd.