Sut bydd y digwyddiad yn gweithio?
Byddwn yn cynnal ein Gwersyll Cymunedol Digidol ar Zoom - yr ap fideo-gynhadledda hawdd ei defnyddio - o gysur eich cartref. Rydym yn anelu at ddarparu mwy na gweithdai ar-lein arferol yn unig gyda'r nod o ddarparu profiad unigryw ein Gwersyll Cymunedol i chi. Byddwch yn derbyn pecyn adnoddau cyn i chi gychwyn, bydd amser i greu cysylltiadau â'r mynychwyr eraill a bydd yna sesiynau ymarferol i gymryd rhan ynddynt o'ch cymuned neu gartref eich hun.
Rydym yn ymroddedig i fod yn gynhwysol felly siaradwch â ni am unrhyw ofynion ychwanegol sydd gennych chi ac fe wnawn ein gorau i'ch cefnogi chi.