Skip to content

Dyma ni’n edrych ar beth oedd yn digwydd eisoes yn yr ardal i weld sut gallwn ni fod yn wahanol, oherwydd dangosodd y Gwersyll Cymunedol i fi sut mae pethau’n gallu tawelu a sut mae angen cadw pethau’n ffres.’

Maria Billington

Yr her

Ar ôl cymhwyso fel meddyg llysiau, roedd Maria, sy’n byw yn Wolverhampton, yn awyddus i ddod o hyd i ffordd o ddefnyddio ei gwybodaeth am blanhigion a pherlysiau er lles y gymuned. Felly pan gododd y cyfle yn 2013 i feddiannu lleoliad ym mharc chwarae antur Gatis Street ger ei chartref gan y cyngor, manteisiodd ar y cyfle. 

Gyda chymorth gwirfoddolwyr lleol, dechreuodd Maria glirio’r ardal. Gwnaeth ei thîm bopeth, o godi sbwriel i dorri coed. ‘Dyma ni’n darganfod y lleoliad delfrydol i ddechrau tyfu a dysgu pobl ifanc sut i dyfu pethau. Helpodd ni i adfer teimlad o falchder yn y lleoliad. Wrth i bobl sylweddoli bod pobl yn poeni amdanynt.’ A dyma eni Gatis Community Space. 

Ond, o ganlyniad i ddiffyg arian, flwyddyn yn ddiweddarach, roedd yr ardd gymunedol mewn perygl o gau, ac roedd Maria’n cael trafferth dod o hyd i ffordd ymlaen. ‘Roeddwn i’n barod i roi’r gorau iddi,’ dywedodd Maria. 

 

Beth wnaeth Maria nesaf

Ar yr adeg argyfyngus hon, dyma Maria’n darganfod y gwaith roedd Eden yn ei wneud â chymunedau. Aeth i Wersyll Cymunedol yn yr Eden Project, a gafodd ei sefydlu i helpu pobl fel Maria i gael mewnwelediad ac ysbrydoliaeth ynghylch mynd â’u prosiectau yn eu blaen. Dyma hi’n darganfod ei hun mewn grŵp o wirfoddolwyr ymroddedig a oedd yn gweithio’n galed ac yn meddwl yn yr un ffordd â hi, o bob cwr o’r wlad, a phob un ohonynt yn barod i rannu eu profiadau a helpu ei gilydd. 

‘Erbyn diwedd y penwythnos, roeddwn yn llawn syniadau gwych, ac yn benderfynol o adeiladu Gatis i fod yn fwy buddiol i’r gymuned’ dywedodd Maria, ‘Rydw i bellach yn galw’r teimlad hwnnw yn ‘Effaith Eden’. Dwi erioed wedi teimlo mor frwdfrydig!’ 

Dychwelodd Maria adref a sefydlodd gyfarfodydd wythnosol â’r gwirfoddolwyr eraill. ‘Dyma ni’n edrych ar beth oedd yn digwydd eisoes yn yr ardal i weld sut gallwn ni fod yn wahanol, oherwydd dangosodd y Gwersyll Cymunedol i fi sut mae pethau’n gallu tawelu a sut mae angen cadw pethau’n ffres.’

Effaith

Lluniodd y pwyllgor newydd ddogfen yn cynnig ei gynlluniau am Gatis, a’i chyflwyno i’r cyngor a thrigolion lleol, a gafodd eu plesio’n fawr. Gyda chymorth dau fentor o’r cyngor, ym mis Mai 2015, cafodd y pwyllgor gyfnod prawf o chwe mis i drosglwyddo’r adeilad a’r tiroedd iddynt fel ased. Bellach, maent yn cynnig diwrnodau chwarae rheolaidd i deuluoedd, caffi cymunedol, ardal ysgol goedwig, clybiau garddio, gweithgareddau i ieuenctid, clybiau gwnio ac uwchgylchu, a chlybiau natur a blodau gwyllt. 

‘Dim ond y dechrau yw hyn’ dywedodd Maria, ‘ond mae’r ymateb rydyn ni wedi ei gael yn rhyfeddol.’ Ers hyn, mae hi wedi derbyn gwahoddiadau i gymryd rhan mewn sawl peth gwahanol yn lleol. ‘Mae pobl eisiau cyngor neu farn. Yn bendant, mae’r diolch am hyn i’r wybodaeth a’r syniadau a gafodd eu sbarduno gan fy amser yn yr Eden Project.’