Skip to content

Creu cymunedau iachus, cytûn gyd’ar Cinio Mawr Fin Nos

Yn 2018, penderfynodd ymddiriedolwyr Sefydliad Diwylliannol Moslemaidd Cymru, Caerdydd rannu eu diwylliant gyda'r gymuned ehangach i ddangos i bawb beth yw Cinio Mawr.

Stori’r Cinio Fin Nos

Roedd y Cinio Mawr yn cwympo yn ystod Ramadan y flwyddyn honno. Oherwydd yr ymprydio dyddiol, fe gynllunion nhw eu Cinio Mawr i gyd-fynd ag Iftar (y pryd o fwyd a gynhelir gyda’r nos ar ddiwedd y diwrnod o ymprydio).

Trefnon nhw’r lleoliad, y dêts a llaeth sy’n draddodiadol i ddod â’r ymprydio i ben, ynghyd â lluniaeth syml gyda’r digwyddiad yn cychwyn tua 9.30pm gan ddod â phobl o wahanol ddiwylliannau a chrefyddau at ei gilydd.

 

wales_1june18_lunarlunch_cardiff_pollythomas_49_2.jpg

People celebrating lunar lunch

Dywedodd Omer, “Roeddem yn teimlo bod amcanion Y Cinio Mawr yn debyg felly roeddem yn gallu cynnal Iftar a oedd ar agor i’r gymuned ehangach, nid i Fwslemiaid lleol yn unig.”

“Cawsom bryd o fwyd ar ôl i bawb weddïo fel grŵp. ‘Hap a damwain’ yw hi o ran bwyd yn ein Iftar gyda phawb yn dod â rhywbeth i’w rannu. Mae’n golygu ein bod byth yn gwybod beth fydd ar gael, ond mae rhywbeth blasus ar gael bob tro.”

I Heather, un o drefnwyr eraill Cinio Mawr Fin Nos, mae’r digwyddiad yn golygu mwy na phobl yn rhannu bwyd. ‘Fe ofynnom i’r gymuned gyfan chwarae rhan, fe wahoddom gymdogion, teuluoedd a ffrindiau a gofyn i bawb ddod â phryd o fwyd. Mae’n hynod bwysig magu perthnasoedd a chael gwared ar rwystrau er mwyn i ni allu dweud ein bod i gyd yr un fath, sef ein bod yn bobl ddynol.’

“Fe ofynnom i’r gymuned gyfan chwarae rhan, fe wahoddom gymdogion, teuluoedd a ffrindiau a gofyn i bawb ddod â phryd o fwyd. Mae’n hynod bwysig magu perthnasoedd a chael gwared ar rwystrau er mwyn i ni allu dweud ein bod i gyd yr un fath, sef ein bod yn bobl ddynol.”

Heather

 

Effaith

Roedd y cyfle i wella cysylltiadau yn y gymuned a’r ardal yn gyffredinol yn allweddol ar gyfer ymddiriedolwyr Sefydliad Diwylliannol Moslemaidd Cymru, dywedodd Omer, ‘Mae’n wych datblygu cysylltiadau gyda mudiadau eraill o’r un meddylfryd sy’n credu, fel ni, ym mhwysigrwydd creu cymunedau iachus a chytûn.  Roedd yn hyfryd gwahodd pobl o wahanol grefyddau neu’r sawl heb grefydd i mewn i’n canolfan yn ystod Ramadhan am gyfle i eistedd a sgwrsio mewn awyrgylch hamddenol. Aeth ymlaen i ddweud, ‘Y gobaith yw y bydd hyn yn creu cyfeillgarwch newydd ac yn cryfhau rhai cyfredol.’

 

wales_1june18_lunarlunch_cardiff_pollythomas_39_2.jpg

A group of women sat on a sofa