Skip to content

Creu cymuned lewyrchus 

Pan sylwodd y fam i ddau, Helen Alves, ar ddiffyg gweithgareddau yn ei hardal ar gyfer teuluoedd ifanc yn ystod y cyfyngiadau symud, penderfynodd weithredu a chychwyn ei menter ei hun ar ôl mynychu Gwersyll Cymunedol Eden Project.

Yn ddiweddar, mae Helen, sy’n byw yn Iver Heath yn Swydd Buckingham, wedi sefydlu The Ivers Hive, grŵp wythnosol lle gall rhieni gymdeithasu ac ailddosbarthu eitemau cyn-annwyl i frwydro yn erbyn caledi ariannol a helpu gydag unigrwydd ac unigedd. 

 

Cychwyn arni

Ar ôl i Helen gael ei hysbrydoli, cofrestrodd i fynd i Wersyll Cymunedol rhithwir ym mis Mawrth 2021. Gan ddisgrifio’r cwrs fel un ‘gwerthfawr’, roedd Helen yn gallu clywed gan bobl eraill â meddylfryd cymunedol, gan ddweud: “Roedd mynychu’r gwersyll yn hynod ysbrydoledig! Fe roddodd hyder i mi a chryfhau fy mhenderfyniad i ddechrau’r prosiect hwn. Roedd yn anhygoel gweld blagur rhai syniadau gwych yn tyfu.” 

Yna ymunodd Helen, sydd hefyd yn gweithio i elusen genedlaethol, â chyn gynghorydd plwyf, Ann, i sefydlu sesiynau wythnosol ‘rhwydweitiho ac ymlacio’ mewn pafiliwn lleol i rieni gysylltu a chymdeithasu. Yn awyddus i leihau costau byw i deuluoedd ifanc eraill, mae grŵp Ivers Hive hefyd yn rhedeg cynllun ailgylchu dillad a gwisg ysgol, sy’n gwahodd pobl i roddi eitemau cyn-annwyl yn gyfnewid am ddillad a theganau newydd os oes eu hangen arnyn nhw. 

Mae’r grŵp eisoes wedi dod yn bell ers ei wythnos gyntaf, pan fynychodd tri rhiant, gyda mwy a mwy o bobl yn y gymuned yn galw heibio am goffi neu’n gwirfoddoli i ddidoli rhoddion. Gyda gwyliau’r haf ar eu ffordd, penderfynodd Helen ehangu’r cynllun i gynnwys rhaglen o weithgareddau i blant, sydd hyd yma wedi gweld teuluoedd yn dod at ei gilydd i fwynhau bore ar thema’r Gemau Olympaidd, picnic tedi bêrs a sesiwn cwrdd â’r ymlusgiaid. 

Er mai dim ond wyth wythnos ydyn ni i mewn, bu dros 100 o bobl fynychu sesiwn ddiweddar ac rydw i wedi bod wrth fy modd yn gallu clywed y wefr o amgylch ein digwyddiadau a gweld y llawenydd ar wynebau plant pan maen nhw’n chwarae gyda ffrindiau neu’n dewis tegan newydd.

Effaith

Meddai Helen, “Yn ystod y cyfyngiadau symud, ro’n i’n sylwi ar famau ifanc o gwmpas ac roeddwn i’n gwybod nad oedd llawer iddyn nhw ei wneud. Roedd fy mhlant fy hun yn colli cymdeithasu ac roeddwn yn poeni am deuluoedd a oedd nid yn unig yn ynysig yn gymdeithasol, ond yn ynysig yn ariannol hefyd. Mae’r syniad wedi tyfu oddi yno ac mae wedi bod yn anhygoel gweld y gymuned yn ffynnu ar ôl blwyddyn mor anodd. 

“Er mai dim ond wyth wythnos ydyn ni i mewn, bu dros 100 o bobl fynychu sesiwn ddiweddar ac rydw i wedi bod wrth fy modd yn gallu clywed y wefr o amgylch ein digwyddiadau a gweld y llawenydd ar wynebau plant pan maen nhw’n chwarae gyda ffrindiau neu’n dewis tegan newydd. Gyda phobl yn cyfathrebu, yn gwirfoddoli ac yn rhannu mwy nag erioed, rydyn ni nawr yn edrych ymlaen at gynnal mwy o ddigwyddiadau ar thema ailgylchu mewn pryd ar gyfer tymor y tywydd gwlyb a’r Nadolig.”

 

Darganfod mwy

Mae ein Gwersylloedd Cymunedol ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn gweithgaredd cymunedol ond ddim yn gwybod ble i ddechrau. Os yw hyn yn swnio fel chi yna gallwch ddarganfod mwy yma.