Sut helpodd coffi a charafán pobl unig i ddod at eigilydd
Ann Osborn yw cyfarwyddwr Rural Coffee Caravan yn Suffolk. Mae’r caffi a’r ganolfan wybodaeth gymunedol symudol yn ceisio lleihau arwahanrwydd mewn ardaloedd gwledig. Bellach, mae Ann a’i thîm yn aelodau o’r ymgyrch i ddod ag unigrwydd i ben, ac yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd o ddod â phobl at ei gilydd lle mae ei angen fwyaf.
Camau cyntaf
Gwelodd gydweithiwr Ann, a Chadeirydd yr Ymddiriedolwyr, y Parchedig Ganon Sally Fogden, fod angen dod ag aelodau unig cymunedau gwledig at ei gilydd trwy ei gwaith fel caplan amaethyddol. Prynodd garafán, casglodd wybodaeth berthnasol ynghyd, pobodd gacennau ac aeth â’r garafán i gefn gwlad Suffolk.
Beth wynaeth Ann
Gosodwyd y garafán ar lecynnau gwyrdd mewn pentrefi, meysydd parcio eglwysi neu unrhyw leoliad oedd yn ddigon mawr iddi. Croesawodd pobl y cyfle i ymgynnull i sgwrsio a gwneud defnydd llawn o’r wybodaeth trwy gyrraedd gwasanaethau doedden nhw ddim yn ymwybodol eu bod yn bodoli cyn hynny.
Dyma ni’n cysylltu ag Ann ar ôl dod ar draws y Rural Coffee Caravan ar Twitter. Roedden ni wrth ein boddau â gwaith ei thîm, felly cafodd wahoddiad i Wersyll Cymunedol yn Eden. Dywedodd Ann: ‘Mae Gwersyll Eden yn ysbrydoli, yn annog, yn rhoi gwybodaeth, yn ein galluogi i rwydweithio, ac, mae’n rhaid dweud, yn gwneud i ni fel unigolion deimlo’n arbennig iawn. Roedd awyrgylch o ofal, brwdfrydedd a llawenydd yno. Roedd yn codi ysbryd. Yn ogystal â’r syniadau diddiwedd, roeddet ti’n gwybod dy fod yn mynd i gael cefnogaeth am amser hir.’
Mae Gwersyll Eden yn ysbrydoli, yn annog, yn rhoi gwybodaeth, yn ein galluogi i rwydweithio, ac, mae’n rhaid dweud, yn gwneud i ni fel unigolion deimlo’n arbennig iawn.
Ann
Effaith
Dyma’r gair yn lledaenu a, gyda help cyllid, mae’r prosiect wedi tyfu i ateb y galw cynyddol dros y degawd diwethaf. Bellach, mae gan y cwmni dri aelod o staff a thîm anhygoel o wirfoddolwyr. Mae dwy garafán yn teithio trwy’r sir, ac mae’n aml yn achosi newid mewn cymunedau, trwy eu hannog i ddechrau eu digwyddiadau a’u gweithgareddau eu hunain, ac yna chynnig cymorth wrth iddynt ddechrau tyfu.
Mae tîm y Rural Coffee Caravan yn parhau i ddarganfod ffyrdd newydd o ddod â phobl ynghyd, ac wedi datblygu ‘ffeiriau oes aur’ fel ‘siop wybodaeth un stop’, gyda stondinau gan gynrychiolwyr gwasanaethau sydd ar gael i bobl hŷn yn yr ardal. Dywedodd Ann, ‘mae hyn yn caniatau 121 o sgyrsiau, a mynediad uniongyrchol at y gwasanaethau hyn. Ac, wrth gwrs, mae te a chacennau ar gael yn y garafán, wedi eu gweini gan ein gwirfoddolwyr hyfryd.’ ‘Rydym ni wedi trefnu digwyddiadau eraill hefyd’ dywedodd Ann. ‘Rydym ni’n cynnal te pnawn, digwyddiadau Hel Atgofion, ffeiriau Oes Aur. Mae gennym ni sawl digwyddiad sy’n seiliedig ar thema o roi mynediad i wasanaethau a lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd.’
‘Rydym ni hefyd yn cynnal Te Pnawn Hel Atgofion, gan ddefnyddio adnoddau o bob math, fel eitemau, fideo, cerddoriaeth. Mae’r rhain yn ddigwyddiadau hyfryd i bobl â dementia a’u teuluoedd. Mae ein holl ddigwyddiadau yn ceisio lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd, a chreu cyfleoedd cymdeithasol i bobl.’
Rhagor o wybodaeth
Ewch i weld Ann a’r tîm ar wefan Rural Coffee Caravan neu dilynwch nhw ar Twitter a Facebook.