Skip to content

Dathlu gwirfoddolwyr gyda’r Cinio Mawr

Roedd Gardd Salad Caerdydd yn awyddus iawn i drefnu Cinio Mawr er mwyn diolch i’r gwirfoddolwyr am eu gwaith a’i ymroddiad at ddatblygiad yr ardd.

Mae’r Cinio Mawr wedi bod yn gyfle gwych inni gael pawb ynghyd i ddathlu llwyddiant yr ardd ac i ddiolch am gyfraniad gwerthfawr y criw dros y blynyddoedd. Mae mor bwysig i wneud amser a gofod i ail gysylltu fel hyn, mae e mor werthfawr. Rydym i gyd wedi elwa ac yn methu aros am y tro nesaf!”

Roedd Gardd Salad Caerdydd yn awyddus iawn i drefnu Cinio Mawr er mwyn diolch i’r gwirfoddolwyr am eu gwaith a’i ymroddiad at ddatblygiad yr ardd.

Yn ol Sophie,;“Roedd Y Cinio Mawr yn cynnig cyfle inni ddod at ein gilydd ac ail gysylltu am y tro cyntaf ers sbel”.

mhorwood_big_lunch_050621_065.jpg

Aeth Sophie ati i gydweithio gyda llond llaw o’r gwirfoddolwyr i drefnu’r digwyddiad, gan sicrhau bod y digwyddiad yn hawdd i bawb ymuno ac yn ddiogel yn unnol a’r cyfyngiadau;

“Aethon ni ati i greu bocsys bwyd, gan ddefnyddio cynyrch ffres o’r ardd. Roedd y bocsys wedi’i paratoi ymlaen llaw ac roedd pawb yn gallu casglu ei bocs yno ar y dydd a mwynhau’r cynyrch gyda’i gilydd yn yr awyr agored, yn yr ardd”.

Roedd Sophie wedi sicrhau digon o amrywiaeth er mwyn sicrhau bod y plant yn medru ymuno hefyd; “Roedd yr holl fwyd yn llysieuol gyda pasta, cyri a salad tofu. Roedd digon o gacennau blasus hefyd. Roedd pawb wrth ei bodd!”

 

mhorwood_big_lunch_050621_116.jpg

 

Eating at The Big Lunch

 

Mae Sophie’n credu’n gryf bod pawb wedi elwa o’r digwyddiad, yn enwedig ar ol cyfnod ble nad oeddynt wedi gwled ei gilydd ers amser maith;

“Dim ond tri gwirfoddolwr sy’n medru bod yn yr ardd ar yr un pryd fel arfer, felly roedd hwn yn gyfle i lawer ohonom ddod at ein gilydd o bellter, a mwynhau’r awyrgylch a datblygiad yr ardd ei hun. Roedd tua 25 ohonom yno, a phawb wir yn gwerthfawrogi’r cyfle i ail gysylltu a sgwrsio eto, ac i ddal fyny gyda’i gilydd a sicrhau bod pawb yn oce ar ol cyfnod mor heriol. Mae’r digwyddiad wedi’n ysgogi ni i drefnu mwy o ddigwyddiadau fel hyn i ddod a ni at ein gilydd yn amlach, mae hynny mor bositif.”

“Dim ond tri gwirfoddolwr sy’n medru bod yn yr ardd ar yr un pryd fel arfer, felly roedd hwn yn gyfle i lawer ohonom ddod at ein gilydd o bellter, a mwynhau’r awyrgylch a datblygiad yr ardd ei hun.”

Sophie, Cardiff Salad Garden