CODWCH YSBRYD CYMUNEDOL GYDAG EIN CYNHESWYR GAEAF

Mae misoedd y gaeaf a thymor y Nadolig yn heriol i lawer o bobl, ac yn arbennig felly gyda chostau byw cynyddol ac ansicrwydd yn ein hwynebu eleni. Ond gwyddom y gall dod at ein gilydd yn ein cymunedau ac edrych allan am ein gilydd helpu i leddfu baich y cyfnod anodd hwn – a lleihau’r unigrwydd a wynebir gan lawer hefyd.

Os ydych chi eisiau lledaenu ychydig o hwyl a chodi hwyl y rhai o'ch cwmpas, dyma ein hoff weithgareddau cynhesu'r gaeaf i roi cynnig arnynt eleni!

1) CYNHALIWCH GINIO MAWR ADEG DOLIG

Rhannwch fwyd, cyfeillgarwch a hwyl yr ŵyl gyda’ch cymuned y gaeaf hwn trwy gynnal Cinio Mawr adeg Dolig! Mae’n gyfnod prysur o’r flwyddyn, ac i rai gall deimlo’n eithaf unig, felly mae cymryd yr amser i ddweud helo wrth gymydog gyda phecyn o fins peis yn eich dwylo, neu wahodd pobl i rannu pryd o fwyd yn ffordd wych o gadw mewn cysylltiad dros gyfnod yr ŵyl.

Bob mis Mehefin, mae'r Cinio Mawr yn dod â miliynau o bobl ynghyd i rannu cyfeillgarwch, bwyd a hwyl ar gyfer dathliad blynyddol y DU ar gyfer cymdogion a chymunedau. Mae'n syniad syml sy'n cael effaith gadarnhaol barhaus ar y rhai sy'n cymryd rhan. Eleni, rydym yn annog pobl i ymuno yn Y Cinio Mawr adeg Dolig hefyd, i ddathlu ein cysylltiadau a chadw ein cymunedau'n glyd.

Mae gennym bopeth sydd ei angen arnoch i gychwyn arni, o ysbrydoliaeth a chyngor i offer cynllunio digwyddiadau a deunyddiau hyrwyddo.

Trefnwch Ginio Mawr adeg Dolig

2) GOLEUWCH EICH FFENESTRI

Lledaenwch ychydig o lawenydd o'ch ffenestri trwy greu silwetau hudolus gan ddefnyddio papur sidan, addurniadau disglair ac unrhyw beth arall sydd gennych o gwmpas y tŷ. Gallwch hyd yn oed ymuno ag eraill yn eich cymdogaeth i greu Calendr Adfent Byw a mwynhau darganfod yr holl arddangosfeydd gyda'ch gilydd.

Gingerbread Cookies

3) RHANNWCH FWYD A DIOD YR ŴYL!

Rydyn ni wedi llunio rhestr o'n hoff fwyd a diod Nadoligaidd! Bydd y ryseitiau cost-effeithiol hyn yn sicr o blesio pawb. Rhannwch nhw ymhlith eich cymdogion neu pobwch nhw yn barod ar gyfer eich Cinio Mawr adeg Dolig! Mae pob rysáit yn bwydo digon ac yn cynnwys haciau arbed amser ac ynni megis cacennau bach y gellir eu pobi yn y microdon (ie, wir!) a dewisiadau blasus fegan a heb glwten hefyd. 

Willow Lanterns

4) GWNEWCH LUSERNAU HELYG

Mae'r llusernau hyn yn drawiadol ac yn effeithiol ond nid ydynt mor anodd i'w gwneud ag y gallech feddwl - darllenwch y cyfarwyddiadau a rhowch gynnig arni! Unwaith y byddwch wedi meistroli pyramid, beth am fod yn greadigol a rhoi cynnig ar wahanol siapiau a meintiau, llusernau â chromliniau, a llusernau â manylion mwy cain.  Rhowch nhw du allan ar noson sych i ychwanegu ychydig o ddisgleirdeb a hud a lledrith i'ch cymdogaeth, neu dewch ynghyd â'ch cymdogion i ddathlu gyda gorymdaith llusernau!

5) DYWEDWCH HELO

Mae pethau'n anodd ar hyn o bryd, ond gall ychydig o garedigrwydd fynd yn bell iawn. Dywedwch helo wrth bobl o gwmpas y lle, gwenwch a gofynnwch i'ch cymdogion sut ydyn nhw neu a oes angen unrhyw beth arnyn nhw. Mae'n rhyfeddol faint o wahaniaeth y gall gair caredig neu weithred ystyriol ei wneud i bobl sy'n ynysig neu'n unig.

Numbered colourful packages hanging from twine

6) RHOWCH GYNNIG AR HER GWRTHDROI'R ADFENT

Mae Her Gwrthdroi'r Adfent yn troi anhrefn defnyddwyr y Nadolig ar ei ben, trwy ein hannog i roi’r gorau i brynu, a meddwl am yr hyn sydd gennym eisoes, i’w roi i ffwrdd yn lle.  Mae'n debygol bod yna lawer o bethau rydych chi'n berchen arnyn nhw ond nad ydych chi eu heisiau neu eu hangen mwyach, y gallai rhywun arall gwneud defnydd da ohonynt.

Edrychwch am gymaint o bethau ag y gallwch, a lledaenwch ychydig o gariad yn lleol, trwy roi 24 o eitemau i ffwrdd, un bob dydd yn y cyfnod cyn y Nadolig. Gallai fod yn unrhyw beth o hen fagiau anrhegion ac anrhegion dieisiau y gellid eu hail-roi, i deganau plant, dillad a dodrefn.

Defnyddiwch dudalennau Ar Werth ac Am Ddim Nextdoor, neu rhannwch eich eitemau ar eich grwpiau Facebook neu WhatsApp lleol. Mae’n ffordd wych o gael gwared ar eitemau dieisiau a chwrdd â chymdogion newydd yn y broses, ac os yw dod o hyd i 24 o bethau yn ormod, jyst ymunwch yng nghynifer o ddiwrnodau ag y gallwch drwy gydol mis Rhagfyr!

Two men chatting and drinking tea from PG Tips mugs

7) CYSYLLTWCH Â RHYWUN RYDYCH CHI'N GWELD EU HEISIAU

Nid yw cymuned yn golygu'r bobl ar garreg eich drws neu yn eich bywyd bob dydd yn unig. Os oes rhywun nad ydych wedi dal i fyny â nhw ers tro, beth am godi'r ffôn neu anfon neges atynt? Gallech hyd yn oed fod yn hen ffasiwn ac anfon llythyr! Gall cysylltu â'ch ffrindiau a'ch anwyliaid fod o gymorth mawr i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd dros gyfnod y Nadolig.

Felt snowmen wearing knitted scarves

8) DEWCH AT EICH GILYDD AM GREFFTAU NEU GAROLAU NADOLIG

Weithiau cael rhywbeth i'w wneud yw'r ffordd orau o ddod â phobl at ei gilydd a dechrau sgwrs. Cynhaliwch brynhawn crefftau Nadoligaidd a chael pobl i wneud cadwyni papur, llusernau, addurniadau Nadolig naturiol a mwy. Gallwch ddefnyddio deunyddiau presennol ac wedi'u hailgylchu fel nad oes angen gwario gormod! Rydyn ni wedi paratoi rhestr o'n hoff grefftau Nadolig - beth am eu paratoi ar gyfer eich Cinio Mawr adeg Dolig?

Os nad ydych chi'n un da am grefftio, dewch â phobl at ei gilydd i ganu carolau Nadolig. Y cwbl sydd angen i chi wneud yw argraffu neu ysgrifennu geiriau a dod o hyd i rywun sy'n hapus i arwain!

Mae pobl yn teimlo dan fwy o straen dros y Nadolig - mae'n bosib na fyddan nhw'n gallu gweld anwyliaid, neu mae'n bosib nad ydyn nhw'n teimlo bod ganddyn nhw bobl o'u cwmpas sy'n poeni. Mae yna lawer y gallwn ei wneud, bydd cael sgwrs a chodi gwên gyda phobl sy'n byw gerllaw yn cynyddu'r ymdeimlad o ysbryd cymunedol, yn ailgynnau cymdogaeth a gallai hyd yn oed helpu i leddfu unigrwydd unigolyn.

Peter Stewart, Prif Swyddog Diben, Eden Project