Rydym yn ymuno ag achosion da ledled y DU i ddathlu haf 2021 gyda Mis y Gymuned! Ymunwch bryd bynnag sy'n addas i chi a'ch cymuned, p'un a yw hynny i ddiolch i wirfoddolwyr, i gysylltu â'ch cymdogion neu'n syml i ddweud diolch...
Er gwaethaf y cyfnod anodd i bob un ohonom yn ystod pandemig COVID-19, mae nifer o bobl yn teimlo y bu rhai pethau cadarnhaol ddod allan o'r cyfnod hwn.
Mae treulio mwy o amser gartref a bod yn fwy presennol yn ein cymunedau lleol wedi dod â thon galonogol o weithredu cymunedol, gan weld cymdogion yn siarad ac yn cefnogi ei gilydd lawer mwy nag erioed o'r blaen.
Mae'r Cinio Mawr yn ymwneud â dathlu cysylltiadau cymunedol a dod i adnabod ein gilydd ychydig yn well - ac eleni, mae mwy o resymau nag erioed i ddod at ein gilydd, wrth i'r Cinio Mawr gychwyn Mis y Gymuned.
Ymunwch bryd bynnag sy'n addas i chi a'ch cymuned, p'un a yw hynny i ddiolch i wirfoddolwyr, i gysylltu â'ch cymdogion neu'n syml i ddweud diolch. Mae'n gyfle i gysylltu yn ein cymdogaethau, i roi rhywbeth yn ôl, ac i daflu goleuni ar y cymunedau anhygoel rydyn ni'n byw ynddynt i roi hwb i ysbryd cymunedol wrth i ni fynd i mewn i'r haf. Sicrhewch eich pecyn am ddim nawr a dechreuwch gynllunio!
Mae #MisYGymuned yn cychwyn gyda phenwythnos y Cinio Mawr o 5 Mehefin ac yn cefnogi nifer o ddigwyddiadau elusennol tan gychwyn mis Gorffennaf. Beth am gynnal eich Cinio Mawr i gefnogi un o'r achosion gwych hyn?
• Wythnos Gwirfoddolwyr 1-7 Mehefin
• Y Cinio Mawr 5-6 Mehefin
• Wythnos Gwarchod Cymdogaeth 5-11 Mehefin
• Wythnos Gofalwyr 7-13 Mehefin
• Wythnos Ymwybyddiaeth Unigrwydd 14-18 Mehefin
• Wythnos y Ffoaduriaid 14-20 Mehefin
• Wythnos Elusennau Bach 14-19 Mehefin
• Yr Ymgynulliad Mawr 18-20 Mehefin
Defnyddiwch yr hashnod #MisYGymuned i rannu'r digwyddiadau rydych chi'n eu cynnal, rydyn ni wrth ein boddau'n gweld sut rydych chi'n dewis dathlu'ch cymuned a chymryd camau tuag at y dyfodol.
Yn ei chael hi'n anodd ail-gysylltu?
Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Dangosodd ein harolwg diweddaraf a gynhaliwyd gan OnePoll bod dros 20 miliwn o bobl yn y DU yn dioddef o bryder ail-fynediad, bod tua 55% o boblogaeth y DU yn dal i fod yn wyliadwrus ynglŷn â chymdeithasu heb gyfyngiadau, a bod tua 10 miliwn o bobl wedi dweud eu bod wedi anghofio sut i gael sgwrs go iawn.
Ond peidiwch â phoeni - rydyn ni yma i'ch helpu chi i deimlo'n hyderus am fynd yn ôl i'ch cymunedau!
Cofrestrwch ar gyfer ein pecyn Y Cinio Mawr am ddim sy'n llawn awgrymiadau, syniadau a chyngor ar sut i gynnal Cinio Mawr yn ddiogel, ac ymunwch â'r sgwrs ar ein sianeli cymdeithasol (Twitter, Facebook ac Instagram) a'n grŵp cymunedol ar Facebook i gyfnewid syniadau a sgwrsio gyda Chiniawyr Mawr eraill.
Eleni, mae'r Cinio Mawr yn wledd wirioneddol symudol o 5 Mehefin. Ymunwch yn yr hwyl yr haf hwn a phennwch eich dyddiad mawr eich hun i ddathlu!