11 August 2018
Photo of children playing on space hoppers outdoors

Symudiad sy'n annog a chefnogi cymdogaethau i gau eu strydoedd i draffig am gwpl o oriau gyda'r nod o greu man diogel i blant chwarae tu allan yn agos at eu cartrefi yw Playing Out. Siaradom â Rob yn Swydd Hertford am sut mae Cinio Mawr yn ei stryd wedi arwain at syniadau cymunedol eraill. 

Y cychwyn

Pan drefnodd cymydog Cinio Mawr ar ffurf parti stryd ar gyfer Jiwbilî Diemwnt y Frenhines yn 2012, roedd Rob Schafer yn credu y byddai'n wych pe byddai'r plant yn gallu chwarae allan mwy nag unwaith y flwyddyn yn eu stryd eu hunain. 

"Yn tyfu i fyny, roeddwn i wastad allan ar y beic gyda phlant eraill ac roedd bod tu allan yn rhan bwysig iawn o fy mhlentyndod. Nawr mae gen i dri phlentyn fy hun ac roeddwn i eisiau iddyn nhw gael profiad o'r rhyddid roedd gennyf i." 

"Yn ein Cinio Mawr cyntaf, fe sylweddolon faint o deuluoedd oedd yn byw ar y stryd ac roeddem eisiau adeiladu ar ysbryd cymunedol diwrnod y Cinio Mawr." 

Gyda chymorth y mudiad cenedlaethol er chwarae yn y stryd, Playing Out, cafodd Rob ganiatâd gan Gyngor Sir Swydd Hertford i gau'r stryd i draffig am ddwy awr un dydd Sul y mis. Yn ogystal â rhoi cyfle i'r plant ddod allan o'r tŷ, chwarae a reidio beic, mae hefyd yn gyfle i'r oedolion ddod i adnabod ei gilydd. Mae'r trigolion yn gwirfoddoli i sefyll wrth fannau cau'r stryd ac mae unrhyw gerbydau sydd angen mynediad yn cael eu tywys trwy'r stryd yn araf bach. 

Beth sy'n digwydd nawr

Mae stryd Rob wedi bod yn 'chwarae tu allan' am bron y bum mlynedd a hefyd yn trefnu ei 7fed Cinio Mawr. I rannu'r ysbryd cymunedol yn ehangach, mae Rob nawr yn defnyddio'i brofiad i helpu strydoedd eraill yn Swydd Hertford i drefnu partïon stryd a sefydlu cynlluniau chwarae tu allan. Mae'n awgrymu dechrau gyda Chinio Mawr i ddod â phobl ynghyd, a gweld beth ddaw o'r diwrnod! 

Mae Playing Out yn cynnig cyngor, cefnogaeth a syniadau i rieni, trigolion, cynghorau a mudiadau ledled y DU - cymerwch olwg i weld sut gallant helpu eich stryd chi i chwarae!

Os ydych chi'n byw yn Swydd Hertford ac yn credu y gallai cynllun Playing Out weithio ar eich stryd chi, gallwch fynd i www.ourstreetparty.org am gyngor lleol, neu e-bostio Rob yn uniongyrchol ar Hertsplayingout@gmail.com.

 

Roeddem eisiau adeiladu ar ysbryd cymunedol diwrnod Y Cinio Mawr.