Mae dweud diolch mor bwysig, ond weithiau gyda'n bywydau prysur, mae'n hawdd ei anghofio.
Mae miloedd o bobl ar draws ein gwlad yn rhoi eu hamser bob dydd i wneud gwahaniaeth lle maen nhw'n byw. Ym mhob cymuned ledled Cymru, mae unigolion yn ymgymryd â heriau a phrosiectau y maent yn angerddol amdanynt.
Nid ydynt yn ei wneud i gael ei ganmol, ond dyw hynny ddim yn meddwl dylent beidio gael ei ganmol. I geisio adnabod y bobl hyn, y mis diwethaf cynhaliwyd ein digwyddiad Diolch Mawr Cymreig cyntaf. Roedd y digwyddiad yn gyfle i ddathlu'r cymunedau anhygoel sydd gennym ar draws Cymru yn ogystal â'r unigolion a'r grwpiau cyffredin sy’n gwneud pethau anhygoel.
Nawr, fel pob peth da, ysbrydolwyd y digwyddiad hwn gan ychydig o bethau. Y cyntaf oedd blog a ysgrifennwyd gan Peter Lefort yn cymharu pobl a goleudy (ddylech bendant ei ddarllen!)
Arhoswch gyda fi ... dydy goleudy byth yn gwybod yr effaith mae ei olau yn cael ar unrhyw gychod sy'n pasio; pan fyddwch chi'n gweithio gyda'ch cymuned, efallai na fyddwch chi'n gwybod yr effaith rydych chi'n ei gael, oni bai fod pobl yn dweud wrthych. Weithiau rydym yn cymryd yn ganiataol nad ydym yn cael unrhyw effaith gan nad ydym yn cael ymateb, sydd yn aml yn bell o'r gwir. Mae'r weithred o ddweud wrth rywun am yr effaith a gawsant yn anodd weithiau ond mae'n bwysig iawn.
Cydnabuwyd hyn gan grŵp bywiog o Landrindod (gan gynnwys Samantha Evans o'n tîm Cymunedau Eden!) yn gynharach eleni. Fe drefnon nhw ddigwyddiad 'Llandrindod Well Done' (enw gwych!), a oedd yn union hynny, cyfle i ddweud diolch a da iawn i'r bobl sy'n cael effaith (neu yn oleudy) yn eu tref.
Maen nhw'n dweud fod dynwared i fod y ffurf gorau o ganmol, felly aethom ati i geisio i ddisgleirio golau ar gymunedau ac unigolion ledled Cymru sy'n gwneud pethau anhygoel. Fe drefnom ni seremoni wobrwyo gyda gwahaniaeth - dim categorïau a neb yn colli, yn lle, caiff pawb a enwebwyd am ddiolch, dderbyn un!
Roedd hi'n ddiwrnod gwych, gyda phobl o bob cwr o Gymru yn ymuno i ddathlu ein cymunedau! Daeth llawer o'r enwebiadau o'r galon, ac roedden ni fel tîm yn teimlo'n arbennig iawn i gael clywed a rhannu'r teimladau yma.
"Mae hi bob amser yno i gefnogi eraill ac mae hi'n ei wneud â gwên ar ei hwyneb a thunnell o ewyllys da! Mae hi'n wych! "
"Mae bob amser yn 'rhoi yn ôl'. Mae'n garedig, yn anhunanol ac yn rhoi eraill o'i flaen ei hun - nid yw byth yn dymuno, nac yn gofyn am unrhyw gydnabyddiaeth, ond rwy'n credu ei fod yn haeddu hyn. "
"Diolch am greu lle am y tro cyntaf yn fy mywyd rwy'n teimlo fy mod yn rhan ohono, a rhoi i mi deimlad o fod o ddefnydd ac o rywfaint o werth."
Roeddwn i yn bersonol wrth fy modd yn cael sgwrsio â chymaint o bobl ddiddorol, ac roeddwn i'n falch fod pawb a ddaeth eisiau rhannu eu profiadau, eu sgiliau a'u syniadau ar gyfer eu cymuned. Cawsom deimlad ddathlu go iawn.
Mae'r bobl a enwebwyd ar gyfer Diolch Mawr Cymreig yn wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w rhan o'r byd bob dydd. Heb sôn am y miloedd o bobl ledled Cymru nad oeddent yn cael eu cydnabod! Da iawn i chi gyd am wneud yr hyn rydych chi'n ei wneud, rydych chi'n ein hysbrydoli, hyd yn oed os nad ydych chi'n ei wybod.
Gall dweud diolch fod yn anodd, ond gall ei effaith teithio'n bell; mae'r digwyddiad hwn yn hawdd i'w hailadrodd yn eich ardal chi, ond nid oes angen digwyddiad arnoch i rannu'r cariad a dangos eich gwerthfawrogiad, beth am roi cynnig eich hunain?
Os hoffech wybod mwy am y digwyddiad hwn, neu gyfleoedd eraill yng Nghymru, ymunwch â'n cylchlythyr, dilynwch ni ar twitter neu facebook neu cysylltwch â Lowri ljenkins@edenproject.com.