A wyddoch chi fod Diwrnod Caredigrwydd y Byd yn cael ei dathlu bob blwyddyn ar 13 Tachwedd? Mae'r Diwrnod hwn yn cynnig cyfle gwych i ddathlu pwysigrwydd caredigrwydd, felly mae'r Rhwydwaith Llesiant wedi rhannu pum ffordd o fod yn garedig i chi'ch hun ac eraill ar 13 Tachwedd (a phob diwrnod arall!). Wedi'i ysbrydoli gan Bum Ffordd at Lesiant, mae bod yn garedig hefyd yn gallu gwella'ch llesiant!
1. Cysylltu
Adeiladu perthynas a chreu cyswllt gydag eraill yw un o'r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud i wella'n llesiant, ac mae hefyd yn ffordd wych o fod yn garedig. Yn anffodus, mae unigrwydd yn gyffredin iawn heddiw, ond mae llawer o ffyrdd y gallwn ni greu cyswllt. Gall ffonio rhywun dydych chi heb ei weld am sbel am sgwrs neu gychwyn sgwrs gyda dieithryn cyfeillgar wneud fyd o wahaniaeth i'w llesiant - ac i'ch llesiant chithau hefyd.
2. Parhau i ddysgu gyda'n gilydd
Gallwch ddysgu mwy am garedigrwydd trwy gymryd rhan mewn prosiectau cymunedol, all eich helpu i greu cyswllt gyda'ch cymdogion hefyd. Mae'r Rhwydwaith Llesiant (NOW) yn gweithio gyda Chymunedau Eden Project ac eraill i gynnal Diwrnod Gweithredu Cymunedau Dyfnaint yng Nghaerwysg ar 18 Tachwedd i adeiladu gallu grwpiau cymunedol. Os ydych chi'n digwydd bod gerllaw mae croeso i chi ymuno, neu gallwch chwilio am brosiectau a digwyddiadau perthnasol yn eich ardal chi.
3. Bod yn weithgar
Mae bod yn garedig i chi'ch hun cyn bwysiced â bod yn garedig i eraill. Rhowch gynnig ar fod yn weithgar a gwneud ychydig o ymarfer corff ysgafn. Does dim rhaid i chi redeg marathon; beth am fynd am dro bach yn y parc lleol, neu beth am fynd i nofio neu beth am ddawnsio o amgylch yr ystafell fyw i'ch hoff gân. Mae ymchwil wedi dangos bod ymarfer corff yn wych ar gyfer ein hiechyd a hefyd yn gallu ein gwneud yn hapusach; felly byddwch yn garedig i chi'ch hun trwy fod yn weithgar! A beth am wahodd ffrind i gymryd rhan gyda chi? Yna, byddwch chi'ch dau'n buddio.
4. Rhoi
Mae anhunanoldeb a rhoi i eraill yn beth caredig i'w wneud a gall ddod â mwy o hapusrwydd i ni na chyfoeth neu eiddo personol. Does dim angen i roi i eraill gynnwys arian. Gallwch roi'ch sylw llawn i rywun arall, rhoi nwyddau nad ydych chi ei hangen i elusen, neu roi'ch amser ar gyfer achos da. Bydd yr holl bethau hyn yn dangos caredigrwydd i eraill, a bydd yn dda ar gyfer eich iechyd a'ch llesiant hefyd!
5. Talu sylw
Yn aml, rydym yn mynd trwy fywyd ar awto-peilot, gan golli gweithredoedd dyddiol o garedigrwydd a gynigir i ni a chyfleoedd i fod yn garedig hefyd. Cadwch lygad ar 13 Tachwedd am gyfleoedd i ddangos ychydig o garedigrwydd: gwenwch ar ddieithryn ar eich ffordd i'r gwaith, cymerwch ychydig amser ychwanegol i wrando ar ffrind sydd angen cymorth, prynwch goffi i ddieithryn. Mae cymaint o ffyrdd o ledaenu caredigrwydd, ac i wneud gwahaniaeth i'ch bywyd chi a bywyd pobl eraill. A pheidiwch ag anghofio sylwi pan fod pobl yn garedig i chi - mae dangos diolchgarwch yn dda ar gyfer ein llesiant a hefyd yn dda ar gyfer y sawl sy'n dda i ni.
Lledaenwch ychydig o garedigrwydd!
Rhannwch eich gweithrediadau o garedigrwydd ar hap gyda ni ar Facebook a gallech ennill gopi o The Little Book of Kindness gan Bernadette Russell.
Beth yw eich hoff weithrediadau o garedigrwydd i'w rhoi neu eu derbyn? Rhannwch nhw gyda'r Rhwydwaith Llesiant @NetwrkWellbeing ar Twitter a byddant yn rhannu'r rhai gorau!
Gallech hefyd gymryd rhan yn #kindnesscontest17 yr Amgueddfa Hapusrwydd: Gwnewch rywbeth caredig, postiwch amdano ar-lein gyda'r hashnod ac enwebwch dau ffrind i ymuno. Gallwch wylio'r hapusrwydd yn lledaenu'n fyw o 9AM ar ddydd Llun ar wefan arbennig http://kindness.party
'Mae anhunanoldeb a rhoii eraill yn beth caredig i'w wneud a gall ddod â mwy o hapusrwydd i ni na chyfoeth neu eiddo personol'